Gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i gefnogi cleifion

0
617
Primary care services still supporting patients

Gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i gefnogi cleifion

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod ar gael i’n cymunedau.

Mae meddygfeydd a fferyllfeydd meddygon teulu, a nifer o bractisau deintyddol ac optometryddion yn parhau i fod yn weithredol i ddarparu gofal brys a hanfodol.

Mae trefniadau cadw pellter cymdeithasol ar waith ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r PPE priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd.

Mae gwasanaethau’n gweithredu mewn ffordd wahanol yn ystod y pandemig hwn ac mae llawer o feddygfeydd yn defnyddio technoleg newydd i ymgynghori â’u cleifion gan gynnwys defnyddio galwadau fideo.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o’r pedwar grŵp proffesiynol wedi bod yn helpu i ledaenu’r neges bod gofal sylfaenol yn dal i fod yno ar gyfer cleifion sydd angen triniaethau hanfodol a chyngor meddygol. Gellir gweld y fideo yma:  https://youtu.be/Ya_j-zBUbcc

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am sicrhau cleifion bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn dal i fod ar gael i chi. Peidiwch â gohirio ceisio cael triniaeth.

“Dylai cleifion sy’n poeni am broblem feddygol gysylltu â’u Meddygfa Teulu a byddwch yn derbyn cyngor a thriniaeth.

“Tra bod drysau deintyddion ac optometryddion ar gau, maen nhw ar gael o hyd i ddarparu cyngor a rhywfaint o driniaeth i’w cleifion. Dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu hiechyd deintyddol neu iechyd llygaid ffonio eu practis eu hunain yn y lle cyntaf.

“Mae ein cydweithwyr mewn fferyllfeydd yn parhau i fod ar agor i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac mae ganddynt fesurau diogelwch rhagorol ar waith.

“Hoffem ddiolch i’n holl gydweithwyr gofal sylfaenol sy’n parhau i weithio’n galed i gynnig gwasanaeth i’w cleifion yn ystod yr amser anodd hwn.”

Ychwanegodd Dr Llinos Roberts sy’n feddyg teulu ym Meddygfa Tymbl:

“Y brif neges i gleifion yw peidio â gohirio unrhyw beth. Efallai y bydd drysau eich meddygfa ar gau ond mae staff yno ar gyfer cleifion, gan ddarparu ymgynghorion a chyngor dros y ffôn a thrwy alwadau fideo.

“Nid ydym yn gwybod am ba hyd y bydd y pandemig hwn yn para, felly peidiwch â gohirio pethau, cysylltwch â’ch meddyg teulu os ydych chi’n poeni am unrhyw beth.”

Canllaw i’r gwasanaethau cyfredol sydd ar gael

Gwasanaethau Meddygon Teulu

Sut i gysylltu â’ch Meddygfa:

o Mae’r prif ddrysau ar gau er diogelwch staff a chleifion. Peidiwch â mynd i’ch meddygfa. Yn lle, mae yna ystod o opsiynau i gleifion gan gynnwys:

o Cyngor ffôn a / neu ymgynghoriad

o E-ymgynghori sy’n nodwedd ar-lein i ofyn am gyngor gan eich Meddygfa. Gweler gwefan eich practis am fanylion. Mae hyn yn gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn dros 75% o feddygfeydd teulu Hywel Dda ar hyn o bryd.

o Mynychu o Unrhyw Le (neu ymgynghori fideo arall) sydd ar gael ym mhob practis. Defnyddir hwn os bydd angen ymgynghoriad rhithwir gyda’r meddyg teulu a chynghorir y claf ar sut i gael mynediad iddo os oes angen.

o Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu meddyginiaeth ailadroddus – pob un wedi’i gynllunio ar gyfer cyfleustra cleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rheini sy’n hunan-ynysu neu’n cysgodi. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn fel rheol trwy eich meddygfa.

Os oes angen i chi gael eich gweld yn eich meddygfa, bydd y staff yn gwisgo PPE i weld pob claf a byddant yn sicrhau bod mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Gofal arferol hanfodol:

Mae meddygfeydd yn dechrau ailgyflwyno meysydd blaenoriaeth mewn gofal arferol hanfodol fel profion gwaed ar gyfer monitro clefydau cronig. Gofynnwch i’ch meddygfa am fanylion pellach.

Gwasanaethau optometreg

  • Os oes angen sbectol neu lensys newydd arnoch chi, cysylltwch â’ch practis eich hun yn y lle cyntaf.
    • Os ydych chi’n profi unrhyw broblemau llygaid, ffoniwch y rhif canolog, 01267 248793, a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at y practis dynodedig agosaf.
    • Mae nifer fach o bractisau wedi’u dyrannu ar gael ar gyfer triniaethau penodol.
    • Mae hybiau gofal llygaid yn darparu gwasanaeth gofal llygaid acíwt ym mhob sir.
    • Sylwch, fodd bynnag, nad oes profion llygaid arferol ar gael ar hyn o bryd.

Gwasanaethau Deintyddol

  • Dylai cleifion sy’n cael mynediad at ofal deintyddol y GIG yn rheolaidd gysylltu â’u practis GIG arferol. Os oes gennych anghenion deintyddol brys, cewch eich asesu a’ch darparu â thriniaeth lle bo hynny’n bosibl. Gallai hyn fod yn bresgripsiwn ar gyfer lleddfu poen neu i helpu gyda rheoli haint.
  • Dylai cleifion heb bractis deintyddol rheolaidd barhau i gysylltu â 111 os oes angen gofal deintyddol brys arnynt.
  • Os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch fel echdynnu dannedd, cewch eich cyfeirio i Ganolfan Ddeintyddol Brys y Bwrdd Iechyd, lle cewch eich asesu a chael apwyntiad o fewn safle priodol.
  • Sylwch nad yw gwiriadau deintyddol arferol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Fferyllfeydd

  • Mae fferyllfeydd yn parhau ar agor ond peidiwch ag ymweld os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19.
  • Dosbarthu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd. Mae rhai gwasanaethau eraill ar gael hefyd, fel y Gwasanaeth Ail-driniaethau Cyffredin, cyflenwi meddyginiaeth mewn argyfwng ac atal cenhedlu brys, y gellir ei wneud nawr trwy ymgynghoriad ffôn, gyda’r claf neu ofalwr / aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol. Cofiwch archebu unrhyw feddyginiaeth ailadroddus mewn digon o amser cyn i chi redeg allan.
  • Mae staff fferylliaeth yn debygol o fod yn gwisgo PPE ac wedi cyflwyno trefniadau ymarferol i gydymffurfio â phellter cymdeithasol.
  • Dosbarthu meddyginiaeth – Os na allwch gasglu’ch meddyginiaeth eich hun o’ch fferyllfa, gofynnwch i ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog. Efallai y bydd opsiwn gwirfoddoli ar gael.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle