Science fact fuels campaign to stamp out ‘pollinator-friendly’ fiction

0
720

·        The National Botanic Garden of Wales launches first pollinator plant logo scheme in the UK to be backed by DNA-barcoding science 

·        Being rolled out to growers & nurseries so shoppers are guaranteed eligible plants are loved by bees and other pollinating insects, don’t contain synthetic insecticides and are grown in peat-free compost

·        Aims to prevent pollinator decline and benefit other wildlife such as hedgehogs, sparrows and frogs

A new campaign to protect pollinators will end the game of Russian roulette we play every time we buy a plant.

NBGW-Final LogoFor the first time, gardeners are able to buy plants that are guaranteed to be good for bees and other pollinators.

 

The National Botanic Garden of Wales has launched its Saving Pollinators Assurance Scheme  which is uniquely backed by the Garden’s cutting-edge scientific research.

Head of Science, Dr Natasha de Vere explains: “Lockdown has seen a massive growth in gardening with many more people spending extra time and money buying plants to make their gardens more wildlife-friendly, without realising the plants could contain residues of synthetic insecticides that are extremely damaging to pollinators and to our environment.

cid:image022.jpg@01D66510.5946C2A0“There are so many labels out there in garden centres and other stores that advertise plants as being bee-friendly or pollinator-friendly when there is often not much evidence of their benefits.

“A team of scientists here at the Botanic Garden have been using DNA barcoding to investigate which plants honeybees, solitary bees, bumblebees and hoverflies visit. Our new Saving Pollinators Assurance Scheme harnesses this 17 years’ worth of research, and makes its results accessible to gardeners.”

There are already 23 participating growers and specialist nurseries signed up to the scheme and they are using the new ‘Saving Pollinators’ logo. The scheme’s organisers hope the concept could, in the future, be rolled out to other parts of the UK and are calling on the horticulture and garden retail industry to take note. 

The Assurance Scheme is being run by the Botanic Garden’s ‘Growing the Future’ project. GTF Science Officer, Dr Kevin McGinn said: “The pollinator plants assured by our scheme are not only backed by scientific evidence but have been sown, grown and nurtured by a range of passionate growers in a peat-free and synthetic-insecticide-free environment. Consumers can be sure that these plants are not only attractive to pollinators but have also been grown in an environmentally sustainable way.”

On the issue of peat, Kevin added: “The use of peat compost is still widespread but its use is very environmentally damaging. Its extraction from the ground destroys precious habitats and allows vast amounts of carbon dioxide to be released, contributing to climate change. Peat also holds enormous amounts of water, so its extraction increases vulnerability to flooding. Our new assurance scheme covers only plants that are grown peat free.” 

The drastic worldwide decline in vital pollinating insects is partly caused by the use of neonicotinoids and other pesticides.

Research confirms that even plants labelled by retailers as ‘pollinator friendly’ can contain potentially toxic pesticides. Buying plants grown without synthetic insecticides will help prevent pollinator declines and also benefit insect-eating wildlife such as hedgehogs, sparrows and frogs. 

Says Dr de Vere: “This new campaign is all about highlighting what gardeners can do to improve the odds for insects but we need a huge awareness-raising campaign about current horticultural practices so consumers are empowered to do the right thing.

“Look out for our Saving Pollinator Assurance Scheme logo on plants in garden centres and specialist nurseries across Wales, including in the Garden Centre here at the Botanic Garden. It is the only pollinator plant logo in the marketplace that is backed up by science and the only one that assures buyers they have made an environmentally sustainable choice.”

Ffaith wyddonol yn tanio’r ymgyrch i ddryllio’r celwydd am blanhigion ‘cyfeillgar i beillwyr’ 

·        Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lansio cynllun logo planhigion peillio, sef y cynllun cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig i gael ei gefnogi gan wyddoniaeth codau bar DNA

 ·        Mae’n cael ei gyflwyno i dyfwyr a meithrinfeydd fel y gall siopwyr fod yn sicr bod planhigion cymwys yn ddeniadol i wenyn a phryfed peillio eraill, nad ydynt yn cynnwys pryfladdwyr synthetig, a’u bod yn cael eu tyfu mewn compost di-fawn

·        Y bwriad yw atal dirywiad peillwyr a gwneud lles i fywyd gwyllt eraill megis draenogod, adar y to a brogaod

Bydd ymgyrch newydd i ddiogelu peillwyr yn rhoi diwedd ar y gêm rwlét yr ydym yn ei chwarae bob tro y byddwn yn prynu planhigyn.

NBGW-Final LogoAm y tro cyntaf, gall garddwyr brynu planhigion sydd â gwarant eu bod yn llesol i wenyn a pheillwyr eraill. 

Lansiodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ei  Chynllun Sicrwydd Achub Peillwyr a gefnogir gan ymchwil wyddonol flaengar yr Ardd.

 Eglurodd y Pennaeth Gwyddoniaeth, Dr Natasha de Vere: “Gwelwyd cynnydd enfawr mewn garddio yn ystod y cyfnod clo wrth i lawer mwy o bobl dreulio rhagor o amser a gwario mwy o arian yn prynu planhigion i sicrhau bod eu gerddi yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt, a hynny heb sylweddoli y gallai’r planhigion fod yn cynnwys gweddillion pryfladdwyr synthetig sy’n eithriadol o beryglus i’n peillwyr ac i’n hamgylchedd.

cid:image026.jpg@01D66510.5946C2A0“Mae yna gynifer o labeli mewn canolfannau garddio a siopau eraill, sy’n hysbysebu planhigion yn rhai sy’n gyfeillgar i wenyn neu i beillwyr, a hynny, yn aml, pan nad oes yna lawer o dystiolaeth o’u buddion.

 “Mae tîm o wyddonwyr yma yn yr Ardd Fotaneg wedi bod yn defnyddio codau bar DNA  i ymchwilio i’r planhigion y mae gwenyn mêl, gwenyn unig, cacwn a phryfed hofran yn ymweld â nhw. Mae ein Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr yn manteisio ar werth 17 mlynedd o’r ymchwil hon ac yn sicrhau bod y canlyniadau yn hygyrch i arddwyr.”

Mae yna eisoes 23 o dyfwyr a meithrinfeydd arbenigol sy’n cymryd rhan ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, ac maent yn defnyddio’r logo Achub Peillwyr newydd. Mae trefnwyr y cynllun yn gobeithio y gall y cysyniad gael ei gyflwyno i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac maent yn galw ar y diwydiant garddwriaeth a manwerthu planhigion gardd i dalu sylw.

Mae’r Cynllun Sicrwydd yn cael ei redeg gan brosiect Tyfu’r Dyfodol  yr Ardd Fotaneg. Dywedodd swyddog gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn: “Mae’r planhigion ar gyfer peillwyr a warantir gan ein cynllun nid yn unig yn meddu ar gefnogaeth tystiolaeth wyddonol, ond maent hefyd wedi cael eu hau, eu tyfu a’u meithrin gan amrywiaeth o dyfwyr angerddol mewn amgylchedd di-fawn heb unrhyw bryfladdwyr synthetig. Gall y prynwyr fod yn sicr y bydd y planhigion hyn nid yn unig yn denu peillwyr, ond eu bod hefyd wedi cael eu tyfu mewn ffordd gynaliadwy.”

O ran y mater yn ymwneud â mawn, ychwanegodd Kevin: “Mae yna ddefnydd helaeth o gompost mawn o hyd, ond mae hyn yn niweidiol iawn i’r amgylchedd. Mae tynnu mawn o’r ddaear yn dinistrio cynefinoedd gwerthfawr ac yn achosi i symiau enfawr o garbon deuocsid gael eu rhyddhau, ac mae hyn yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Mae mawn hefyd yn dal symiau enfawr o ddŵr, felly mae echdynnu mawn yn peri i’r tir fod yn fwy agored i lifogydd. Mae ein cynllun gwarantu newydd yn cynnwys dim ond y planhigion hynny a dyfir heb fawn.”

Mae’r dirywiad eithafol yn nifer y pryfed peillio wedi’i achosi’n rhannol gan y defnydd o neonicotinoidau a phryfladdwyr eraill.

Mae ymchwil yn cadarnhau y gall hyd yn oed y planhigion hynny sydd wedi’u labelu’n ‘gyfeillgar i beillwyr’ gan fanwerthwyr gynnwys pryfladdwyr a all fod yn wenwynig. Bydd prynu planhigion a dyfwyd heb bryfladdwyr synthetig yn helpu i atal dirywiad peillwyr a hefyd yn fuddiol i fywyd gwyllt sy’n bwyta pryfed, er enghraifft draenogod, adar y to a brogaod.

Dywedodd Dr de Vere: “Mae’r ymgyrch newydd hon yn ymwneud â thynnu sylw at yr hyn y gall garddwyr ei wneud i wella’r amodau ar gyfer pryfed, ond mae arnom angen ymgyrch enfawr i feithrin ymwybyddiaeth o arferion garddwriaethol cyfredol er mwyn grymuso’r prynwyr i wneud y peth iawn.

“Cadwch olwg am logo’r Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr ar blanhigion mewn canolfannau garddio a meithrinfeydd arbenigol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yn y man gwerthu planhigion yma yn yr Ardd Fotaneg. Dyma’r unig logo planhigion peillio yn y farchnad a gefnogir gan wyddoniaeth, a’r unig un sy’n rhoi sicrwydd i’r prynwyr eu bod wedi gwneud dewis amgylcheddol gynaliadwy.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle