Swansea Valley man pays the price for fly tipping

0
796
smart

Magistrates have ordered a Swansea Valley man to pay fines, costs and compensation totalling more than £900 after he was traced to waste dumped at Gellinudd near Pontardawe.

Simon John Brown, 28, of Bethesda Road, Ynysmeudwy, Pontardawe, pleaded guilty at Swansea Magistrates’ Court, on 14th July 2020, to unlawfully depositing controlled waste, contrary to s33 of the Environmental Protection Act 1990.

He was fined £228, ordered to pay costs of £608.22, a victim surcharge of £32, as well as compensation of £65.34 to cover the cost of clearing up the waste he dumped.

Neath Port Talbot Council’s Waste Enforcement Team received a complaint from a member of the public in September last year regarding waste which had been fly tipped on Cwmnantllwyd Road at Gellinudd, Pontardawe.

The complainant provided the Waste Enforcement Team with photographs of the dumped waste.

Investigations by the team led them to a man who admitted having asked Mr Brown to dispose of the waste for him.

The Court heard Natural Resources Wales confirmed the land where the waste was deposited was not subject to an Environmental Permit.

Councillor Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Deputy Leader and Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “We take the blighting of our County Borough by fly tipping extremely seriously and as this case shows we do not hesitate to take action against those responsible.

“We rely on our citizens to keep a look out for illegal depositing of waste and we wish to thank the complainant in this case not only for letting our staff know of the dumping of waste but providing them with photographs.”

———————————————————————————————-

Dyn o Gwm Tawe’n talu’r pris am dipio’n anghyfreithlon

Mae ynadon wedi gorchymyn i ddyn o Gwm Tawe dalu dirwyon, costau ac iawndal sy’n werth cyfanswm o dros £900 ar ôl iddo gael ei olrhain yn ôl i wastraff a ddympiwyd yng Ngelli-nudd ger Pontardawe.

Plediodd Simon John Brown, 28, o Heol Bethesda, Ynysmeudwy, Pontardawe, yn euog yn Llys Ynadon Abertawe, ar 14 Gorffennaf 2020, i ollwng gwastraff a reolir yn anghyfreithlon, yn groes i adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Derbyniodd ddirwy o £228, gorchymyn i dalu costau o £608.22, gordal dioddefwr o £32, ynghyd ag iawndal o £65.34 i dalu cost clirio’r gwastraff a ddympiwyd ganddo.

Gwnaed cwyn gan aelod o’r cyhoedd i Dîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi’r llynedd ynghylch gwastraff oedd wedi cael ei dipio’n slei ar Heol Cwmnantllwyd, Gellinudd, Pontardawe.

Roedd yr achwynydd wedi anfon lluniau o’r gwastraff oedd wedi’i ddympio i’r Tîm Gorfodi Gwastraff.

Ar ôl iddyn nhw ymchwilio, arweiniwyd y tîm at ddyn a gyfaddefodd iddo ofyn i Mr Brown gael gwared â’r gwastraff ar ei ran.

Clywodd y Llys fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad oedd y tir ble gadawyd y gwastraff yn ddarostyngedig i Drwydded Amgylcheddol.

Meddai’r Cynghorydd Ted Latham, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Ac Aelod Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg: “Rydyn ni’n cymryd anharddu ein Bwrdeistref Sirol gan dipio anghyfreithlon yn eithriadol o ddifri, ac fel y dengys yr achos hwn, dydyn ni ddim yn oedi cyn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am wneud.

Rydyn ni’n dibynnu ar ein dinasyddion i gadw golwg am wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon, a hoffem ddiolch i’r achwynydd yn yr achos hwn, nid yn unig am roi gwybod i’n staff am y gwastraff a ddympiwyd, ond am dynnu a rhannu lluniau ohono yn ogystal.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle