Wales TUC: Keeping people in work is the best way to help economy recover

0
605

Commenting on today’s (Wednesday) GDP figures, Wales TUC General Secretary Shavanah Taj said:

“The news that Wales is now officially in a period of recession may not be unexpected, but that doesn’t make it any less damaging.

“It’s a clear reminder that Ministers in Westminister and Cardiff can no longer dither around the issue. They must do everything in their power to retain as many jobs as possible and support businesses with a viable future beyond October. This was how we avoided the worst outcomes in the last recession a decade ago, and it’s what we must do now.

“It’s important we don’t lose perspective on how the recession will impact people’s everyday lives, which is why we need a clear plan for job retention, support for the self employed and proper investment in public services.

“Focussing on fair work and decent job creation in green technology, automotive, construction and aviation industries is the best way to mitigate the worst immediate effects of this recession.”

TUC Cymru: cadw pobl mewn gwaith yw’r ffordd orau o helpu adfer yr economi

Wrth ymateb i ffigurau GDP heddiw (Dydd Mercher), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj  :

“Efallai nad yw’r newyddion bod Cymru yn swyddogol bellach mewn cyfnod o ddirwasgiad yn annisgwyl, ond nid yw hynny’n ei gwneud yn llai niweidiol.

“Mae’n ein hatgoffa’n glir na all Gweinidogion yn San Steffan a Chaerdydd anwadalu ynghylch y mater. Rhaid iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i gadw cynifer o swyddi ag sy’n bosibl a chefnogi busnesau sydd â dyfodol hyfyw y tu hwnt i fis Hydref. Dyma sut y llwyddwyd i osgoi’r canlyniadau gwaethaf yn y dirwasgiad diwethaf ddegawd yn ôl, a dyna y mae’n rhaid inni ei wneud yn awr.

“Mae’n bwysig nad ydym yn colli persbectif ar sut y bydd y dirwasgiad yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl, a dyna pam mae angen cynllun clir arnom ar gyfer cadw swyddi, cymorth i’r hunangyflogedig a buddsoddiad priodol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

“Canolbwyntio ar waith teg a chreu swyddi gweddus yn y sectorau technoleg werdd, modurol, adeiladu ac awyrennu yw’r ffordd orau o liniaru effeithiau gwaethaf y dirwasgiad hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle