Households urged to read and keep important coronavirus mailing / Annog cartrefi i ddarllen a chadw deunydd pwysig am coronafeirws sy’n dod drwy’r post

0
580

Households urged to read and keep important coronavirus mailing

With winter on the way, and the number of cases rising both locally and nationally, all households across Swansea and Neath Port Talbot will soon be receiving important coronavirus information through their letterboxes.

Swansea Bay University Health Board together with Swansea and Neath Port Talbot Councils, have produced the leaflet to provide residents with key advice and details of how to stay up to date with local coronavirus information.

Dr Keith Reid, Executive Director for Public Health for the Swansea Bay area said: “Swansea Bay University Health Board is working alongside the two local authorities to prepare the region for what may be a difficult winter period. We recognise that not everybody is online and able to access our digital channels, so I would urge those people in particular to keep this key information to hand over the coming months.”

“We all have a responsibility to continue following Welsh Government advice to keep ourselves and others safe. Washing hands regularly and thoroughly; maintaining social distancing; and wearing a face covering when it is not possible to stay a safe distance from others are basic yet essential steps in preventing coronavirus from spreading.”

In addition to basic hygiene guidance the leaflet outlines contact details for the three partner agencies and the ways in which they will communicate essential information if increases are seen in the number of coronavirus cases in the local area.

Cllr Rob Stewart, Swansea Council Leader said: “Coronavirus has not gone away and there are certain key things which we all need to know and to do so that we can live alongside it. It is therefore important that people read, follow and keep to hand the information which they will soon be receiving through their doors.

“I would also encourage everyone to keep up to date with trusted local news sources over the autumn and winter months, whether this is online, local radio or newspapers”

The health board and the two councils are also working closely to provide the Test, Trace, Protect service for the Swansea Bay area, which plays an essential role in helping to reduce the likelihood and impact of local coronavirus outbreaks.

Cllr Rob Jones, Neath Port Talbot Council Leader said: “As we have seen elsewhere coronavirus can re-establish itself quickly in communities if the right steps are not taken. If we are to keep Swansea and Neath Port Talbot safe it is essential that anyone who develops symptoms acts quickly to self-isolate, book a test and then engage with the contact tracing service”.

“Whilst specific rules around coronavirus can change regularly and often quite suddenly, the basic actions set out in the leaflet are those we all need to do to keep ourselves and our loved ones safe and to help prevent more stringent restrictions being imposed on the local area”.

—————————————————————————————————–

Annog cartrefi i ddarllen a chadw deunydd pwysig am coronafeirws sy’n dod drwy’r post

Wrth i’r gaeaf ddynesu, ac wrth i’r nifer o achosion godi’n lleol ac yn genedlaethol, mae pob cartref ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar fin derbyn gwybodaeth bwysig am coronafeirws drwy’r post.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar y cyd â Chynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, wedi cynhyrchu’r daflen i roi cyngor a manylion allweddol i drigolion ynghylch sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wybodaeth leol am coronafeirws.

Yn ôl Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar gyfer ardal Bae Abertawe: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe’n gweithio law yn llaw â’r ddau awdurdod lleol i baratoi’r rhanbarth ar gyfer tymor gaeaf a allai fod yn un heriol. Rydyn ni’n cydnabod nad yw pawb ar lein ac yn gallu gweld ein sianelau digidol, felly hoffwn annog y bobl hynny’n enwedig i gadw’r wybodaeth allweddol yma wrth law dros y misoedd nesaf.

“Mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i barhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel. Golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr; parhau i gadw pellter cymdeithasol; a gwisgo gorchudd ar eich wyneb pan nad yw hi’n bosib cadw pellter diogel rhyngoch chi a phobl erailldyma’r camau sylfaenol ond hanfodol ar gyfer atal coronafeirws rhag lledu.”’

Yn ogystal â chanllawiau glanweithdra sylfaenol, mae’r daflen yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer y tair asiantaeth bartner, ynghyd â sut y byddan nhw’n cyfathrebu gwybodaeth hanfodol os bydd cynnydd yn niferoedd yr achosion. lleol o coronafeirws.

Meddai’r Cynghorydd Rob Steward, Arweinydd Cyngor Abertawe: Dyw coronafeirws ddim wedi mynd i ffwrdd, ac mae rhai pethau allweddol y mae angen i bawb ohonom ei wybod a’i wneud er mwyn i ni allu cyd-fyw gyda’r haint. Mae hi’n hollbwysig felly fod pobl yn darllen yr wybodaeth fydd yn dod drwy’r blwch llythyrau cyn bo hir, ac yn ei ddilyn a’i gadw wrth law.

Baswn i hefyd yn annog pawb i wrando’n gyson â ffynonellau newyddion lleol dibynadwy dros gyfnod misoedd yr hydref a’r gaeaf, boed hynny ar lein, drwy gyfrwng radio lleol neu yn y papurau newydd.”

Mae’r bwrdd iechyd a’r ddau gyngor hefyd yn gweithio law yn llaw i ddarparu gwasanaeth

Profi, Olrhain a Gwarchod ar gyfer ardal Bae Abertawe, sy’n chwarae rôl allweddol wrth helpu i leihau’r tebygolrwydd o gael achosion newydd o’r clefyd, ac effaith hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Fel y gwelsom mewn mannau eraill, gall coronafeirws ailsefydlu’n gyflym iawn mewn cymunedau os nad yw’r camau cywir yn cael eu dilyn. Os ydyn ni eisiau cadw Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ddiogel, mae’n hanfodol fod unrhyw un sy’n datblygu symptomau’n gweithredu’n gyflym i hunanynysu, archebu prawf, ac yna ymgysylltu â’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau.

Er y gall rheolau penodol ynghylch coronafeirws newid yn rheolaidd, ac weithiau’n bur sydyn, mae’r gweithredoedd sylfaenol sy’n cael eu hamlinellu yn y daflen yn bethau y mae angen i bawb ohonom eu gwneud er mwyn cadw ein hunain a’n hanwyliaid yn ddiogel, ac i helpu rhag gorfod gosod cyfyngiadau llymach ar yr ardal leol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle