MCG – Tîm Ieuenctid
Mae tîm ieuenctid newydd Cwm Gwendraeth yn paratoi i fynd allan i’r gymuned i ddarganfod anghenion a dymuniadau pobl ifanc yr ardal.
Mae’r tîm o bump wedi’i sefydlu gan Menter Cwm Gwendraeth o dan brosiect ieuenctid Engage yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Colin Price sy’n gyfrifol am y tîm: “Rydyn ni’n mynd i weithio ym mhentrefi Cwm Gwendraeth gyda’r bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, drwy gynnig gweithgareddau a chyrsiau iddynt, a’u helpu gyda’u datblygiad personol.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych ar y cwm cyfan er mwyn targedu ardaloedd sydd â diffyg gwasanaethau. Rydyn ni’n edrych ar Bontyberem a Gorslas. Y peth cyntaf y byddwn ni yn ei wneud fydd mynd allan i gwrdd â’r bobl ifanc a darganfod beth yr hoffant ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Colin, sy’n weithiwr iechyd ieuenctid ac uwch ymarferwr cyfathrebu ac sy’n astudio tuag at radd seicoleg: “Rydw i wedi bod yn gweithio yn ysgolion a chymunedau Cwm Gwendraeth am y pum mlynedd ddiwethaf.”
Mae aelodau eraill y tîm, a fydd yn darparu gwasanaeth dwyieithog yn cynnwys:
Rebecca Evans, sydd wedi astudio troseddeg ac sy’n addysgu dawns. Mae wedi bod yn aelod o’i thîm dawns am 15 mlynedd. Byddan nhw’n cynrychioli Cymru yn Los Angeles.
Phil James, sydd â gradd chwaraeon ac ymarfer corff ac roedd yn athro rhan amser. Mae’n ganolwr i Glwb Rygbi Pontyberem.
Rebecca Storch, sydd â gradd celf ac sydd wedi gweithio i Tinopolis ac yn awr mae’n gweithio i’w hun fel ysgrifennwr a darlunydd. Mae wedi sefydlu grŵp cymunedol gydag eraill sy’n ystyried materion megis newid hinsawdd ac mae wedi helpu i sefydlu cydweithfa sy’n paratoi bwyd organig ar gyfer pobl.
Llyr Lloyd, sydd â gradd therapi chwaraeon ac sy’n hyfforddwr gym cymwysedig ac sydd wedi’i hyfforddi mewn rheolaeth pwysau maethol. Mae wedi’i gyflogi fel swyddog ieuenctid sy’n ymdrin ag iechyd a ffitrwydd. Mae’n chwaraewr gweithredol ac mae’n chwarae i Glwb Rygbi Rhydaman.
Hayley Price sydd wedi’i phenodi fel Gweithiwr Cynnal Sgiliau Byw o dan Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gaerfyrddin sy’n cefnogi rhieni ifanc i feddu ar sgiliau byw dwyieithog.
Mae’r tîm ieuenctid yn awyddus i siarad â phobl ifanc yng Nghwm Gwendraeth am eu syniadau a gallwch gysylltu â nhw ar 01269 871600 neu drwy e-bost restorch@mentercwmgwendraeth.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle