Partners working to support national problems with booking COVID tests | Partneriaid yn gweithio i gefnogi problemau cenedlaethol gydag archebu profion COVID

0
656

Whilst there are some problems across the UK in the booking of local COVID-19 tests; Hywel Dda University Health Board is assuring people that local tests are being carried out in all three counties.

The health board is aware of difficulties reported by local people in accessing tests via the UK Booking Portal and 119 bilingual telephone service. This is due to an increase in demand for COVID-19 tests across the UK.

In some cases, the site is not showing access to local testing sites and only showing testing available in eastern parts of Wales, England or Scotland. At other times, the system is completely unavailable.

The Welsh Government has raised the issue with the UK Government.

Director of Therapies and Health Science for Hywel Dda University Health Board Alison Shakeshaft said: “Please be assured that we do have local testing capacity within Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire and we are speaking with partners to support resolution of the booking issues. Local people should not need to travel excessive distances to access a test.”

Tests are available via appointment only to members of the public at the Showground, Carmarthen; Canolfan Rheidol in Aberystwyth and Pembrokeshire Archives in Haverfordwest. These are drive-through sites, please do not turn up on site on foot or without an appointment as you will be turned away.

Hywel Dda University Health Board also has several venues for the testing of patients coming into hospital or undergoing certain treatments, across the three counties. These venues are not publically announced as they are for a target audience, by direct appointment, and are subject to different opening times and to change.

Alison said: “Thank you to our communities for working with us to Keep Hywel Dda Safe.”

How and when to book a test?

Members of the public can help by booking test appropriately, only when they have any of the following COVID-19 symptoms.

  • a new continuous cough
  • a high temperature
  • loss of or change to sense of smell or taste

To book a test, visit the UK Booking Portal, https://gov.wales/apply-coronavirus-test or ring 119. If you experience a problem with the system, please try again later in the day or evening as test appointments are refreshed.

If you or a member of your household develop any of these symptoms, the entire household should immediately self-isolate. This means staying at home, even if your symptoms are mild. To protect others, you must not attend school, nursery, other childcare settings, work, or go to or to places like a GP surgery, pharmacy or hospital.

You should book a test for the individual with the symptoms. It is unnecessary to test the entire household if they are not symptomatic.

Anyone with symptoms must self-isolate for 10 days from when their symptoms started. They can return to school/work after 10 days if they are well enough to do so.

Anyone in the household who does not have symptoms must self-isolate for 14 days from when the first person in the home started having symptoms.

If you receive a positive test result, you will be contacted by the Test, Trace, Protect Team who will advise you further.

If the test is negative, self-isolation can end for everyone, children may return to school and parents can return to work if they are well enough to do so and as long as nobody else in the household has developed symptoms.

For non-household contacts, if a person has been in contact with an individual experiencing symptoms, they should carry on as normal until that individual receives their test result. If this is positive, the Test, Trace, Protect Team will contact those people identified as contacts and advise accordingly.

Partneriaid yn gweithio i gefnogi problemau cenedlaethol gydag archebu profion COVID

Er bod rhai problemau ledled y DU wrth archebu profion COVID-19 lleol; Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am sicrhau fod profion lleol yn cael eu cynnal ym mhob un o’r tair sir.

Mae’r bwrdd iechyd yn ymwybodol o’r anawsterau a adroddwyd gan bobl leol wrth gyrchu profion trwy Borth Archebu’r DU a gwasanaeth ffôn dwyieithog 119. Mae hyn oherwydd cynnydd yn y galw am brofion COVID-19 ledled y DU.

Mewn rhai achosion, nid yw’r wefan yn dangos mynediad i safleoedd profi lleol ac yn dangos profion sydd ar gael yn rhannau dwyreiniol Cymru, Lloegr neu’r Alban yn unig. Ar adegau eraill, nid yw’r system ar gael o gwbl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi’r mater gyda Llywodraeth y DU.

Dywedodd Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Alison Shakeshaft: “Gallwn sicrhau fod gennym allu profi lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac rydym yn siarad â phartneriaid i gefnogi datrys y materion archebu. Ni ddylai fod angen i bobl leol deithio pellteroedd gormodol i gael mynediad at brawf. ”

Mae profion ar gael trwy apwyntiad yn unig i aelodau’r cyhoedd ar Faes y Sioe, Caerfyrddin; Canolfan Rheidol, Aberystwyth ac Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd. Mae’r rhain yn safleoedd gyrru trwodd, peidiwch â mynychu’r safle ar droed neu heb apwyntiad gan y cewch eich troi i ffwrdd.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd sawl lleoliad ar gyfer profi cleifion sy’n dod i’r ysbyty neu’n cael rhai triniaethau, ar draws y tair sir. Ni chyhoeddir y lleoliadau hyn yn gyhoeddus gan eu bod ar gyfer cynulleidfa darged, trwy apwyntiad uniongyrchol, ac maent yn destun gwahanol amseroedd agor a all newid.

Meddai Alison: “Diolch i’n cymunedau am weithio gyda ni i gadw Hywel Dda yn ddiogel.”

Sut a phryd i archebu prawf?

Gall aelodau’r cyhoedd helpu trwy archebu prawf yn briodol, dim ond pan fydd ganddynt unrhyw un o’r symptomau COVID-19 canlynol:

  • peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli neu newid ymdeimlad o arogl neu flas

I archebu prawf, ewch i borth Archebu’r DU, https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119. Os ydych chi’n profi problem gyda’r system, ceisiwch eto yn hwyrach yn y dydd neu’r nos gan fod apwyntiadau prawf yn cael eu adnewyddu bryd hynny.

Os byddwch chi neu aelod o’ch cartref yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, dylai’r cartref cyfan hunan-ynysu ar unwaith. Mae hyn yn golygu aros gartref, hyd yn oed os yw’ch symptomau’n ysgafn. Er mwyn amddiffyn eraill, rhaid i chi beidio â mynychu’r ysgol, meithrinfa, lleoliadau gofal plant eraill, gweithio, na mynd i leoedd fel meddygfa teulu, fferyllfa neu ysbyty.

Dylech archebu prawf ar gyfer yr unigolyn sydd â’r symptomau. Mae’n ddiangen profi’r cartref cyfan os nad ydyn nhw’n symptomatig.

Rhaid i unrhyw un â symptomau hunan-ynysu am 10 diwrnod o’r adeg y dechreuodd eu symptomau. Gallant ddychwelyd i’r ysgol / gwaith ar ôl 10 diwrnod os ydyn nhw’n ddigon da i wneud hynny.

Rhaid i unrhyw un ar yr aelwyd nad oes ganddo symptomau hunan-ynysu am 14 diwrnod o’r adeg y dechreuodd y person cyntaf yn y cartref gael symptomau.

Os ydych chi’n derbyn canlyniad prawf positif, bydd y Tîm Prawf, Olrhain, Amddiffyn yn cysylltu â chi a fydd yn eich cynghori ymhellach.

Os yw’r prawf yn negyddol, gall hunan-ynysu ddod i ben i bawb, gall plant ddychwelyd i’r ysgol a gall rhieni ddychwelyd i’r gwaith os ydyn nhw’n ddigon da i wneud hynny a chyn belled nad oes neb arall ar yr aelwyd wedi datblygu symptomau.

Ar gyfer cysylltiadau heblaw cartrefi, os yw unigolyn wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sy’n profi symptomau, dylent barhau fel arfer nes bod yr unigolyn hwnnw’n derbyn canlyniad ei brawf. Os yw hyn yn gadarnhaol, bydd y Tîm Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â’r bobl hynny a nodwyd fel cysylltiadau ac yn cynghori yn unol â hynny.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle