Mae AS Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi ymateb i’r cyhoeddiad na fydd yr orsaf bŵer yn Wylfa yn mynd yn ei flaen

0
593
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru
Wylfa Nuclear Power Plant, which is situated in North Wales

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad fod yr orsaf pwer yn Wylfa ddim yn mynd yn ei flaen, dwedodd AS dros Ynys Mon, Rhun ap Iowerth,

“Roedd Horizon yn dweud hyd at yr wythnosau diwethaf bod eu rhiant-gwmni, Hitachi, yn dal yn obeithiol o ennill cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn amlwg mae hynny wedi methu, a gobeithion y rhai fu’n dymuno gweld datblygiad gorsaf ynni newydd wedi cael eu codi a’u chwalu eto. I mi, dyma oedd y perygl mewn rhoi gormod o ddibyniaeth ar fuddsoddiad allanol ac ar allu llywodraeth y DU i ddelifro. 

“Tra bydd angen ystyriaeth frys rŵan ar gyfer opsiynau amgen ar gyfer y safle, rhaid hefyd codi gêr yn y gwaith o sicrhau cyfleon eraill yma ym Môn, yn cynnwys maesydd yr ydw i’n gefnogol iawn iddyn nhw, mewn ynni môr, ynni hydrogen ac uwch-dechnoleg ym mharc gwyddoniaeth MSparc er enghraifft. Byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her honno fel mater o flaenoriaeth. 

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weld Plaid Cymru yn dod a phencadlys corff cenedlaethol newydd Ynni Cymru i Fôn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle