Y Brifysgol yn cael dau lwyddiant cynaliadwyedd

0
472

Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd wedi arwain at ddau gyflawniad.

Yn ogystal ag ennill ardystiad Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon am ei gwaith i leihau gwastraff o gwmpas ei champysau, mae hefyd wedi mwynhau llwyddiant dan y Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF), sy’n annog prifysgolion sy’n cymryd rhan i fod yn fwy effeithlon yn eu defnydd o adnoddau wrth ymchwilio ac addysgu. 

Dywedodd Dr Heidi Smith, Pennaeth Cynaliadwyedd, fod y gydnabyddiaeth yn arbennig o arwyddocaol wrth i’r Brifysgol nodi Wythnos Ailgylchu 2020.

Meddai: “Rydym wedi bod yn gwneud newidiadau sylweddol o ran y defnydd o adnoddau, sydd mor bwysig wrth i ni wynebu effaith Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd.

“Yn y Brifysgol, mae myfyrwyr, staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol yn gweithio gyda’r gymuned a busnesau er mwyn sicrhau bod yr ymagwedd gadarnhaol hon at ein hamgylchedd yn cyrraedd pob rhan o’r sefydliad ac ymhell y tu hwnt iddo.”

Ychwanegodd Hugh Jones, o’r Ymddiriedolaeth Garbon: “Rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i hyrwyddo ei hagenda o ran cynaliadwyedd drwy ardystio ei llwyddiant i leihau gwastraff i Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon.” 

Drwy gymorth y darparwr rheoli gwastraff Veolia, gwnaeth y Brifysgol leihau ei hôl troed gwastraff 15 y cant rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Awst 2020. 

Gwnaeth hyn helpu’r Brifysgol i gyflawni Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon, ynghyd â sicrhau sgôr ardderchog o 75 y cant yn yr asesiad ansoddol. Perfformiodd Prifysgol Abertawe’n arbennig o dda o ran arferion mesur a rheoli gwastraff. 

Mae asesiad yr Ymddiriedolaeth Garbon yn rhoi cydnabyddiaeth annibynnol o gymwysterau lleihau a rheoli gwastraff y Brifysgol ac yn cydnabod y cynnydd y mae Abertawe’n ei wneud wrth roi prosesau llywodraethu, mesur a rheoli gwastraff effeithiol ar waith. Mae cyfnod yr ardystiad yn para o 2020 i 2022. 

Yn y cyfamser, mae academyddion wedi bod yn cwmpasu cynaliadwyedd yn eu gwaith. Fel prifysgol sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil, mae gan Abertawe nifer sylweddol o labordai a gweithdai arbenigol iawn sy’n dibynnu ar ynni, deunyddiau a chyfarpar ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wastraff. 

Er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, ymunodd mwy na 150 o aelodau staff sy’n gweithio mewn labordai yn y Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth a’r Ysgol Feddygaeth ym menter LEAF ochr yn ochr â sefydliadau blaenllaw eraill megis Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt a Sefydliad Francis Crick. 

Ar ôl eu hail flwyddyn yn defnyddio’r adnodd, enillodd 17 o labordai Abertawe safon efydd ac enillodd un ohonynt safon arian ar ôl gwneud cyfres o newidiadau i’r ffordd roedd staff yn gweithio. 

Mae’r adnodd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr arloesi, datblygu a gweithredu eu hymagwedd eu hunain cyn rhannu canfyddiadau ac arferion gorau. Er enghraifft, mae cau’r lwfrau mwg yn fwy yn y labordai cemeg wedi arwain at leihau costau a C02 yn sylweddol. 

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’n wych gweld cynnydd ein Prifysgol mewn maes mor bwysig, diolch i ymdrechion cynifer o aelodau staff yn ein sefydliad. Dyma gyflawniadau y gall ein staff a’n myfyrwyr ymfalchïo ynddynt.” 

Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn y nawfed safle yn y DU yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet a gyhoeddir gan The Guardian. Dywedodd yr Athro Boyle fod y Brifysgol yn awyddus i wneud mwy er mwyn defnyddio adnoddau mewn modd mwy cynaliadwy ac effeithlon. 

Meddai: “Rydym yn adeiladu ar y gwaith ardderchog hwn drwy ddatblygu Strategaeth Cynaliadwyedd a fydd yn llywio’r Brifysgol am y pum mlynedd nesaf ac yn ein helpu i symud tuag at ein nod sylfaenol o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2040.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleUniversity marks double sustainability success
Next articleShopping Safely with Asda
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.