Botanic Garden Trustee Board is growing

0
599
from left to right, Professor Iain Donnison, Julie James, Sarah Jennings, Mel Doel, Gary Davies, Professor Pete Wall, Dr Helen Matthews Picture: © Gruff Thomas, photo@gruffyddthomas.co.uk

The National Botanic Garden of Wales is delighted to announce the appointment of five new Trustees.

They are BBC broadcaster and past Chair of Brecon Beacons National Park Authority, Mel Doel; Sarah Jennings, director of communications at Natural Resources Wales; Dr Helen Matthews, retired Consultant Psychiatrist with Hywel Dda UHB;  Professor Pete Wall, clinical physiologist and past chair of research ethics committees in Wales; and Professor Iain Donnison, head of IBERS at Aberystwyth University.

All five are based in Wales and two live in Carmarthenshire – and are Welsh speakers.

The new recruits were welcomed by the Chair of Trustees, Gary Davies and vice-chair, Julie James.

Gary said: “It is a huge pleasure to welcome our new board members who all bring new and special talents to the Botanic Garden. With their help and their skills, we can continue the excellent work carried out here in a very special cause.”

The Botanic Garden is a charity, governed by a Board of Trustees. The position of Trustee is voluntary and, together, their role is to support the Director in implementing the organisation’s vision and strategy.

The new appointments join on the board the likes of Sir Roger Jones, Carmarthenshire county councillor Dai Jenkins, garden historian Liz Whittle and former member of the National Assembly, Eluned Parrott. For a full list of Botanic Garden Trustees, go to https://botanicgarden.wales/about-the-garden/trustees/

The National Botanic Garden of Wales, in Llanarthne, Carmarthenshire, opened in May 2000, and is dedicated to the research and conservation of biodiversity, to sustainability, lifelong learning and the enjoyment of the visitor.

From left to right, Professor Iain Donnison, Julie James, Sarah Jennings, Mel Doel, Gary Davies, Professor Pete Wall, Dr Helen Matthews
Picture: © Gruff Thomas, photo@gruffyddthomas.co.uk

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Ardd yn tyfu

Mae’n bleser gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyhoeddi penodiad pum Ymddiriedolwr newydd.

Maent yn cynnwys Mel Doel, darlledwr i’r BBC a Chyn-gadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Sarah Jennings, cyfarwyddwr cyfathrebu yn Cyfoeth Naturiol Cymru; Dr Helen Matthews, Seiciatrydd Ymgynghorol ymddeoledig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda;  Yr Athro Pete Wall, ffisiolegydd clinigol a chyn-gadeirydd pwyllgorau moeseg ymchwil yng Nghymru; a’r Athro Iain Donnison, pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r pump wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae dau yn byw yn Sir Gaerfyrddin – ac yn siaradwyr Cymraeg.

Croesawyd y recriwtiaid newydd gan Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Gary Davies, a’r Is-gadeirydd, Julie James.

Dywedodd Gary: “Mae’n bleser enfawr croesawu aelodau newydd ein bwrdd, gyda phob un ohonynt yn dod â thalentau newydd ac arbennig i’r Ardd Fotaneg. Gyda’u cymorth a’u sgiliau, gallwn barhau â’r gwaith rhagorol a wneir yma mewn achos arbennig iawn”.

Mae’r Ardd Fotaneg yn elusen, sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae swydd yr Ymddiriedolwr yn un wirfoddol a, gyda’i gilydd, rôl y gwirfoddolwyr yw cefnogi’r Cyfarwyddwr i weithredu gweledigaeth a strategaeth y sefydliad.

Mae’r penodiadau newydd yn ymuno â bwrdd sy’n cynnwys pobl megis Syr Roger Jones, y cynghorydd sir Dai Jenkins o Gyngor Sir Caerfyrddin, yr hanesydd gardd Liz Whittle, a’r     cyn-aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol, Eluned Parrott. I gael rhestr lawn o Ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg, ewch i https://garddfotaneg.cymru/about-the-garden/trustees/

Agorodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2000, ac mae’n ymrwymedig i ymchwilio i fioamrywiaeth a chadwraeth bioamrywiaeth, ac i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle