Health board provides assurance to local residents following Llanelli lockdown restrictions / Bwrdd iechyd yn rhoi sicrwydd i drigolion lleol Llanelli yn dilyn cyfyngiadau cloi

0
763
Prince Philip Hospital

Following the introduction of temporary lockdown measures in the Llanelli area the health board is moving to reassure local communities that they can still access hospital and community healthcare services, including urgent care.

The health board is continuing to focus on providing these essential services and patients should access Prince Philip Hospital if they have an urgent care need or a scheduled clinic appointment.

Planned operations continue to be prioritised based on clinical urgency (including patients with cancer and other urgent care needs) and people should attend these if they have a confirmed admission date.

These measures apply to people with appointments at Prince Philip Hospital (regardless of where you live), and for people living in the Llanelli restricted zone. Arrangements are also continuing with access to primary care services – please phone your doctor’s surgery, dentist or optometrist to find out more and follow instructions at your community pharmacist.

All GP practices and a number of community pharmacies are continuing to offer the flu jab by appointment – again please check arrangements with these providers locally and make sure you keep your appointment if you’ve been offered one.  If you do not have an appointment arranged and you are in one of the “at risk” categories, please contact your GP Practice to check on the arrangements for this year.

 Visiting continues to be restricted at all Hywel Dda University Health Board hospitals and these must be pre-planned and agreed with the sister/charge nurse.

The exceptions to this arrangement are:

  • One parent/guardian at a time to visit their child
  • For birthing mothers – only one birthing partner
  • Patients considered to be at the end of life or receiving palliative care.

We have also introduced local exemptions to this where you can visit if you are supporting someone with a mental health issue such as dementia, a learning disability or autism, where not being present would cause the patient to become distressed.  For further information of visiting generally, please see our website.

In all cases we are urging patients to continue to follow infection prevention and control guidance, as well as use of face coverings and maintaining social distance.  Further information and updates about local lockdowns can be found on the Welsh Government’s website here.

Mandy Rayani, Director of Nursing, Quality and Patient Experience at Hywel Dda, said: “It’s really important that people living in areas affected by the new lockdowns know that they can still access services in the same way as they have been able to for the last few months.

“At the same time, it’s also important that people choose the right healthcare service for their need so that our hospitals can manage the extra demand that we always face at this time of the year.

“We will continue to prioritise urgent and emergency care, including planned operations based on clinical urgency, and I’d also like to remind people that arrangements are in place at a local level for community services such as GPs, pharmacies, optometrists and dentists.

“If you do need to attend a healthcare setting please remember to follow guidance on hand hygiene, face coverings and social distancing and please contact the senior sister or charge nurse if you want to find out about visiting relatives in hospital.

“Remember, COVID-19 is a serious disease which is sadly having real and tragic consequences for many people and families. We will endeavour to do all that we can to keep our communities safe and we’d like to thank the public for their patience and understanding as we continue to work through these new arrangements.”

Remember – if you or any member of your household develop symptoms of COVID-19 it is important that you self-isolate and do NOT attend any appointments or visit our sites.

If you have symptoms (raised temperature, new persistent cough OR loss or change of smell or taste) please book a test as soon as possible. You can do this via the UK Portal here

Any Llanelli residents having problems booking a test can contact us on 0300 333 2222 or via covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk

————————————————————————————————

Bwrdd iechyd yn rhoi sicrwydd i drigolion lleol Llanelli yn dilyn cyfyngiadau cloi

Yn dilyn cyflwyno mesurau cloi dros dro yn ardal Llanelli mae’r bwrdd iechyd am dawelu meddyliau cymunedau lleol y gallant ddal i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd ysbytai a chymunedol, gan gynnwys gofal brys.

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn a dylai cleifion fynd i Ysbyty Tywysog Philip os oes ganddynt angen gofal brys neu apwyntiad clinig wedi’i drefnu.

Mae llawdriniaethau a gynlluniwyd yn parhau i gael eu blaenoriaethu ar sail brys clinigol (gan gynnwys cleifion â chanser ac anghenion gofal brys eraill) a dylai pobl fynychu’r rhain os oes ganddynt ddyddiad wedi’i gadarnhau.

Mae’r mesurau hyn yn berthnasol i bobl ag apwyntiadau yn Ysbyty Tywysog Philip (waeth ble rydych chi’n byw), ac i bobl sy’n byw ym mharth cyfyngedig Llanelli. Mae trefniadau hefyd yn parhau gyda mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol – ffoniwch eich meddygfa, deintydd neu optometrydd i ddarganfod mwy a dilyn cyfarwyddiadau gan eich fferyllydd cymunedol.

Mae pob meddygfa a nifer fawr o fferyllfeydd cymunedol yn parhau i gynnig pigiad y ffliw trwy apwyntiad- unwaith eto gwiriwch y trefniadau gyda’r darparwyr hyn yn lleol a gwnewch yn siĹľr eich bod chi’n cadw’ch apwyntiad os ydych chi wedi cael cynnig un. Os nad oes gennych apwyntiad wedi’i drefnu a’ch bod yn un o’r categorĂŻau “mewn perygl”, cysylltwch â’ch Meddygfa Teulu i wirio’r trefniadau ar gyfer eleni.

Mae ymweld yn parhau i fod yn gyfyngedig yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a rhaid i’r ymweliadau gael eu cynllunio ymlaen llaw a’u cytuno gyda’r Prif Nyrs / Nyrs â gofal.

Yr eithriadau i’r trefniant hwn yw:

  • Un rhiant / gwarcheidwad ar y tro i ymweld â’u plentyn
  • Ar gyfer mamau geni – dim ond un partner geni
  • Cleifion yr ystyrir eu bod ar ddiwedd oes neu’n derbyn gofal lliniarol.

Rydym hefyd wedi cyflwyno eithriadau lleol i hyn lle gallwch ymweld os ydych chi’n cefnogi rhywun â mater iechyd meddwl fel dementia, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle byddai peidio â bod yn bresennol yn achosi i’r claf fynd yn ofidus. Am ragor o wybodaeth am ymweld yn gyffredinol, gweler ein gwefan.

Ymhob achos rydym yn annog cleifion i barhau i ddilyn canllawiau atal a rheoli heintiau, yn ogystal â defnyddio gorchuddion wyneb a chynnal pellter cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a diweddariadau am gloi lleol ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion yn Hywel Dda: “Mae’n bwysig iawn bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y canllawiau newydd yn gwybod y gallant ddal i gael mynediad at wasanaethau yn yr un ffordd ag y maent wedi gallu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Ar yr un pryd, mae hefyd yn bwysig bod pobl yn dewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir ar gyfer eu hangen fel y gall ein hysbytai reoli’r galw ychwanegol yr ydym bob amser yn ei wynebu yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys llawdriniaethau wedi’u cynllunio ar sail brys clinigol, a hoffwn atgoffa pobl hefyd bod trefniadau ar waith ar lefel leol ar gyfer gwasanaethau cymunedol fel meddygon teulu, fferyllfeydd, optometryddion a deintyddion.

“Os oes angen i chi fynd i leoliad gofal iechyd, cofiwch ddilyn canllawiau ar hylendid dwylo, gorchuddion wyneb a phellter cymdeithasol a chysylltwch â’r Brif Nyrs neu’r nyrs â gofal os ydych chi am gael gwybod am ymweld â pherthnasau yn yr ysbyty.

“Cofiwch, mae COVID-19 yn glefyd difrifol sydd, yn anffodus, yn cael canlyniadau real a thrasig i lawer o bobl a theuluoedd. Byddwn yn ymdrechu i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau’n ddiogel a hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni barhau i weithio trwy’r trefniadau newydd hyn. ”

Cofiwch – os ydych chi neu unrhyw aelod o’ch cartref yn datblygu symptomau COVID-19 mae’n bwysig eich bod chi’n hunan-ynysu a PEIDIWCH â mynychu unrhyw apwyntiadau nac ymweld â’n safleoedd.

Os oes gennych symptomau (tymheredd uwch, peswch parhaus newydd NEU golli neu newid arogl neu flas) archebwch brawf cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn trwy Borth y DU yma

Os ydych yn byw yn Llanelli ac yn cael problemau wrth archebu prawf gallwch gysylltu â ni ar 0300 333 2222 neu drwy covidenquiries.hdd@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle