TUC Cymru yn croesawu cyfraith newydd ar isafswm cyflog morwyr

0
484
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Heddiw, croesawodd TUC Cymru gyflwyniad deddfwriaeth newydd a fydd yn gwella’r tâl i forwyr sy’n gweithio ar foroedd Cymru. Mae’r Gorchymyn Isafswm Cyflog Cenedlaethol (Cyflogaeth ar y Môr) (Wedi Diwygio) 2020 yn ymestyn cyfraddau cyflog yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) i gynnwys pob morwr sy’n gweithio ar longau masnachol rhwng porthladdoedd yng Nghymru a gweddill y DU, gan gynnwys gosodiadau ynni alltraeth (olew a nwy, gwynt) ym Môr Iwerddon.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj: “Rydym yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd hon a fydd yn gwella amddiffyniadau i forwyr ac yn hybu hawliau cyflogaeth ar gyfer llongwyr sy’n gweithio ar longau o borthladdoedd yng Nghymru, yn enwedig mewn meysydd twf fel ynni adnewyddadwy alltraeth a chludo nwyddau arfordirol sy’n allweddol i sicrhau adferiad economaidd gwyrdd yn llwyddiannus yn ein cymunedau arfordirol.

“Rhaid i orfodaeth fod yn effeithiol felly byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a chyrff rheoleiddio eraill fynediad dilyffethair i arolygu llongau masnachol ar draws rhwydwaith porthladdoedd Cymru i atal cyflogwyr rhag sy’n talu morwyr llai na chyfraddau isafswm cyflog domestig – dangosydd cyffredin o gaethwasiaeth fodern.

“Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pellach i fynd i’r afael â chriwio cost isel ar lwybrau rhyngwladol, gan gynnwys o Gaergybi a Phenfro lle mae Irish Ferries yn parhau i ddileu’r gyfraith isafswm cyflog ar ddwy ochr Môr Iwerddon, gan dandorri cystadleuwyr sy’n cydymffurfio â’r gyfraith fel Stena Line, ac yn cau llongwyr a busnesau yng Nghymru allan o swyddi a thwf yn y broses.

“Bydd TUC Cymru yn parhau i gefnogi cynlluniau undebau llafur ar gyfer cynyddu hyfforddiant a swyddi i forwyr yng Nghymru, gan fod ail-adeiladu ein gwydnwch morol ar ôl blynyddoedd o esgeulustod, ymosodiad gan coronafeirws ac anweddolrwydd Brexit yn flaenoriaeth lwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle