Mae pump o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru wedi’u henwebu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddod o hyd i hoff orsaf Prydain.
Dechreuodd y pleidleisio am 09:00 ddydd Llun 12 Hydref yng Nghwpan y Byd y Gorsafoedd, cyfres o bleidleisiau Twitter a drefnwyd gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd. Cafodd 48 o orsafoedd ym Mhrydain eu henwebu yn y rownd gyntaf, gan gynnwys pum gorsaf yng Nghymru.
Yng ngrŵp Cymru, bydd Caerdydd Canolog, Casnewydd, Abertawe a Phontypridd yn cystadlu am un lle yn y rownd gyn-derfynol, tra bod Y Waun yn rhan o’r grŵp o orsafoedd a enillodd Gwobrau’r Orsaf Orau yn y Gwobrau Rheilffordd Cenedlaethol yn ddiweddar, ar ôl cael ei henwi’n Orsaf Fach Orau Prydain.
Bydd y pleidleisio yn y rownd gyntaf yn cau am 18:00 ddydd Mercher 14 Hydref, gyda’r rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn ystod y 24 awr dilynol a phenderfynir ar ganlyniad y rownd derfynol ar Ddiwrnod Gorsafoedd sef dydd Gwener 16 Hydref.
I bleidleisio, dilynwch @RailDeliveryGrp ar Twitter. Ymunwch â’r sgwrs drwy ddefnyddio’r hashnod #WorldCupOfStations.
Ffeithiau am y gorsafoedd
Caerdydd Canolog
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Caerdydd Cyffredinol
– O fewn pellter cerdded i Stadiwm Principality a phencadlys BBC Cymru
– Mae gan yr orsaf blatfform 0, 1, 2, 3, 4, 6, 7 a 8, ond does dim platfform 5 erbyn hyn
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 12,934,304
Y Waun
– Agorwyd yn 1848
– Mae’r draphont rheilffordd dros Cwm Ceiriog wrth ymyl traphont hanesyddol Thomas Telford o 1801, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Pontcysyllte
– Bu unwaith yn gyfnewidfa gyda Thramffordd Rheilffordd Gul Glynceiriog, nes iddi gau yn 1935
– Enillydd Gorsaf Fach Orau Prydain yng Ngwobrau Rheilffordd Cenedlaethol 2020.
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 77,106
Casnewydd
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Casnewydd
– Yr orsaf brysuraf yng Nghymru y allan i Gaerdydd
– Un o ddwy orsaf ym Mhrydain o’r enw Newport – mae’r llall yn Essex. Roedd gorsafoedd o’r enw Newport yn Swydd Amwythig ac Ynys Wyth ar un pryd.
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,745,064
Pontypridd
– Agorwyd yn 1840
– Arfer cael ei galw’n Gyffordd Pontnewydd a Phontypridd Canolog
– Arferai fod yr ynys-blatfform hiraf yn y byd
– Bydd yn elwa yn sgil dyblu nifer y gwasanaethau rheilffordd fel rhan o Metro De Cymru
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 884,132
Abertawe
– Agorwyd yn 1850
– Arfer cael ei galw’n Stryd Fawr Abertawe
– Yn elwa ar hyn o bryd o welliannau sy’n cael eu gwneud gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail
– Arferai fod yn un o saith o orsafoedd yng nghanol y ddinas – y lleill oedd Bae Abertawe, Doc Dwyreiniol, Riverside, Stryd Rutland, St Thomas a Victoria
– Nifer yr ymwelwyr yn 2018-19: 2,156,036
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle