Mae angen ‘toriad clir’ o gyfyngiadau er mwyn mynd i’r afael â gwendidau’r system prawf, olrhain ac ynysu, yn ôl Plaid Cymru.
Y bwriad yw sicrhau gostyngiad sylweddol yn y rhif R a gosod sylfeini a Strategaeth dileu Covid-19 gyda ‘clo dros dro’.
Fel y blaid gyntaf yng Nghymru i awgrymu toriad o’r fath, mae Plaid Cymru yn parhau i gefnogi’r syniad. Fodd bynnag, mae yna fanylion penodol yr hoffai’r Blaid eu gweld yn cael eu cynnwys os am roi cefnogaeth lawn a phrofi’r ffordd mwyaf effeithiol. Dywed y Blaid mai nawr yw’r amser i ddod at ein gilydd i amddiffyn ein GIG unwaith eto ac achub bywydau.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal:
“Rwyf am i gyn lleied o gyfyngiadau â phosibl gael eu gosod, ond eu gorfodi’n briodol, a gyda chefnogaeth glir i’r bobl a busnesau yr effeithir arnynt.
“Ond yn anffodus, oherwydd methiant polisïau gan Lywodraethau Cymru a’r DU hyd yma, er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw mae angen clo dros dro nawr er mwyn cael y feirws dan reolaeth ac i ddechrau o’r newydd.
“Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi cynllun manwl ar frys i fynd i’r afael ag annigonolrwydd yr ymateb cyfredol, gan gynnwys cynigion fel y rhai y mae Plaid Cymru yn eu cynnig heddiw.
“Maent yn cynnwys ystod o fesurau i wella ein system olrhain ac ynysu, i ddiogelu gweithleoedd, ac i sicrhau cefnogaeth ariannol ddigonol i fusnesau a’u gweithwyr.
“Yn sgîl y cyngor gan SAGE a’r nifer uchaf erioed o achosion Coronavirus yng Nghymru yr wythnos diwethaf, mae’n rhaid cael cyfyngiadau pellach.
“Does neb eisiau byw yn mynd a dod allan o gyfyngiadau byth a beunydd. Rhaid i’r egwyl hon fod yn ddechrau ar ddull gwahanol. Rhaid i’r camau a gymerir nawr wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gostwng y rhif R ac arbed bywydau yn y pen draw.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle