DATA NEWYDD WRTH BOBL IFANC YN CEFNOGI ‘CYTGORD’, FEL FFORDD DDA O GREU ATEB I BROBLEMAU BYD-EANG FEL NEWID HINSAWDD

0
476
Image by Pete Linforth from Pixabay

Mae data newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, cyn lansiad The Harmony Debates, yn rhoi tystiolaeth ddadlennol fod 74.7% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar draws y DU, yn obeithiol bod effaith COVID-19 wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth o’r angen i ofalu am ein planed, ein hiechyd a’n gilydd. Mae 67.5% ohonyn nhw’n gefnogol i egwyddor Cytgord fel ateb i broblemau byd-eang, gyda  46.7% yn barod i hyrwyddo’r datrysiad.

 

Edrychodd yr arolwg, a gomisiynwyd gan y cyhoeddwyr Sophia Centre Press, ar safbwyntiau pobl ifanc yn ystod y flwyddyn anhygoel hon – blwyddyn lle mae’n edrych yn debyg bod digwyddiadau’r byd (newid hinsawdd, pandemig byd-eang a methiant busnesau) yn gwneud i bobl edrych o’r newydd ar ein hymddygiadol dynol a’n gwaddol.

 

Yn ddiddorol, dywedodd y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr arolwg fod cynhesu byd-eang a newid hinsawdd yn fwy o bryder iddyn nhw (46.1%) na’r pandemig presennol (39.5%), gyda’r rhan fwyaf yn gweld Covid-19 fel cyfle i ‘edrych o’r newydd’ ar y ffordd y mae cymdeithas yn gweithredu.

 

Dywedodd Nick Campion, awdur The Harmony Debates

“Mae’n ymddangos bod y data’n datgelu awydd cryf i ail-edrych ar bethau a ffordd newydd o fyw. Byddai hyn yn ychwanegu pwysau at ein tystiolaeth anecdotaidd ein hunain gan bobl ifanc sy’n astudio ac yn ymchwilio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rydym yn profi’n uniongyrchol y dystiolaeth o anfodlonrwydd cynyddol mewn mwy o symudiadau protest, tystiolaeth gynyddol o newid hinsawdd drwy fwy o drychinebau naturiol, methiant busnesau a marwolaethau yn sgil COVID-19”. Er, mewn rhai agweddau – mae’r hyn a ddadlennir yn anodd i’w ddarllen ac yn herio pob arweinydd ym myd busnes, addysg a’r llywodraeth i edrych ar eu cydwybod eu hunain, mae hefyd yn awgrymu dyfodol mwy gobeithiol o dan warchodaeth ein cenhedlaeth nesaf.”

 

Cwestiynodd yr arolwg a gynhaliwyd gan One Poll agweddau cyffredinol tuag at effaith digwyddiadau’r byd yn 2020 ar ddyfodol pobl ifanc. Edrychodd hefyd ar eu safbwyntiau o ran perthnasedd Cytgord a’i athroniaeth heddiw.

 

Er nad oedd y rheini rhwng 16 a 24 oed wedi clywed am Cytgord, pan roddwyd mwy o fanylion iddyn nhw am ei agwedd at ffordd well o fyw a gweithio, yna heb os, mae’r ystadegau yn dangos croeso sylweddol ar draws y sampl hon. Y lleisiau ifanc hyn fydd ein cleientiaid lletygarwch a chyrchfannau yn y dyfodol.

 

Mae’r canlyniadau yn atgyfnerthu, yn fwy nag erioed, y byddai’r byd yn elwa o gofleidio Athroniaeth Cytgord fel glasbrint ar gyfer byw. Daw’r data newydd cyn cyhoeddi llyfr newydd The Harmony Debates gan yr Athro Cysylltiol Nicholas Campion, Cyfarwyddwyr yr Athrofa Cytgord, ar 22 Hydref 2020.

 

“Mae newid yn cael ei orfodi’n gyflym yn sgil COVID-19. Efallai ei fod wedi cyflymu newidiadau sydd eu hangen ers blynyddoedd. Mae’r eiliad hon, gyda’n llyfr newydd yn sbardun ar gyfer trafodaeth a dadl, yn rhoi cyfle i’r symudiad Cytgord annog mwy o arweinwyr i gofleidio ei athroniaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac annhegwch ledled y byd. Y cysyniadau a’r ffordd o feddwl a amlinellir yn The Harmony Debates yn rhan o athroniaeth ac ymchwil yr Athrofa Cytgord, ac yn datblygu syniadau a archwiliwyd gan noddwr y Brifysgol, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ei lyfr ‘Harmony a new way of looking at our world.’ Mae gweledigaeth y Cenhedloedd Unedig ar ddatblygu cynaliadwy hefyd yn sail i gynllunio byd-eang. A bydd ein dadl ar 22 Hydref yn sbardun ar gyfer newid. Rydym yn poeni’n arbennig am bobl ifanc a sut mae digwyddiadau diweddar wedi effeithio’n sylweddol arnyn nhw. Dyma ein galwad i weithredu. Mae pobl ifanc yn gwneud newidiadau ac yn mynnu ffordd fwy cytûn, mwy caredig a mwy hyfyw o fyw a gweithio. Dyma lle mae’n rhaid i’n pwyslais fod”, dywedodd Campion.

 

Mae The Harmony Debates, sy’n cynnwys cefnogaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn llyfr o 45 o draethodau a ysgrifennwyd gan gyfranwyr allweddol, gan gynnwys cefnogwyr selog ac adnabyddus Cytgord. Mae’r rhain yn cynnwys Patrick Holden, Helen Browning, John Eliot Gardener, Tony Juniper a’r Fonesig Ellen MacArthur sy’n archwilio Cytgord o ran bwyd a ffermio, busnes a’r economi, adnewyddu cymunedol a cherddoriaeth. Hefyd rhoddir sylw i nifer o leisiau newydd a ffres i’r ddadl gan gynnwys ymchwilwyr doethuriaeth ifanc fel Sneha Roy, M.A. Rashed ac Ilaria Cristofaro, sy’n archwilio Cytgord mewn perthynas â datrys anghydfodau, Islam a delweddau o’r haul ym myd natur.

 

 

 

 

Am gopïau o’r llyfr, am fanylion ar sut i gofrestru ar gyfer y seminar neu i gyfweld â Nick Campion neu’r cyfranwyr, ewch i n.campion@uwtsd.ac.uk

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â The Harmony Debates, ewch i  www.sophiacentrepress.com/portfolio/the-harmony-debates

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle