Annog ffermwyr i geisio am gyngor nawr i baratoi ar gyfer ymgeisio am gyllid drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru

0
527

Yr wythnos hon, mae Cyswllt Ffermio’n dechrau ar ymgyrch newydd i annog busnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru i ofyn am y cyngor sydd arnynt ei angen nawr, er mwyn bod yn barod i fanteisio ar dros £1.6 miliwn o gyllid grant Llywodraeth Cymru a fydd ar gael i’r economi wledig dros y misoedd nesaf o dan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy a’r cynllun newydd, Grant Busnes Fferm – Y Cynllun Gorchuddio Iardiau.

Mae’r Grant Busnes Fferm – Y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn gynllun grant cyfalaf, a fydd yn cefnogi gwelliannau ym mhob agwedd ar reoli maetholion trwy gryfhau’r isadeiledd presennol ar y fferm.

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu pob elfen o’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, fod ffermwyr yn gallu cael gafael ar gyngor Cynllunio Busnes ac Isadeiledd trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.

“Mae’n bwysig gofyn am gyngor annibynnol arbenigol nawr, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o’r gwelliannau sydd eu hangen ar eich busnes cyn gwneud cais am gyllid grant,” meddai Mrs Williams.

Trwy’r Gwasanaeth Cynghori, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyllid o hyd at 80% tuag at gost cyngor un i un ar y fferm, a ddarperir gan nifer o gynghorwyr cymeradwy, wedi’u lleoli ledled Cymru.

Bydd y Grant Busnes Fferm – Y Cynllun Gorchuddio Iardiau yn cefnogi’r gwaith o osod to ar unrhyw ardaloedd bwydo da byw, ardaloedd casglu anifeiliaid, storfeydd tail, a storfeydd slyri a storfeydd silwair presennol. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi rhai eitemau eilaidd, gan gynnwys nwyddau dŵr glaw ar gyfer adeiladau presennol, systemau cynaeafu dŵr glaw a phecynnau dadansoddi slyri.

Bydd y cynllun yn seiliedig ar y model Grant Busnes Fferm presennol ond gyda gofyniad ychwanegol i gyflwyno ffotograffau â geotag o’r ardaloedd cyn ac ar ôl y gwaith fel rhan o’r broses ymgeisio a hawlio.  Bydd canllawiau manwl yn ymwneud â’r cymorth grant a’r meini prawf cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru’n fuan.

Nid oes gofyniad erbyn hyn i ddarparu tystiolaeth o fynychu digwyddiad ymwybyddiaeth strategol Cyswllt Ffermio cyn ymgeisio am gyllid. Ond bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal gweminar ar-lein ar 4 Tachwedd, lle bydd yr ymgynghorydd amgylcheddol, Keith Owen, cyfarwyddwr cwmni ymgynghorol blaenllaw Kebek Ltd, sy’n un o gynghorwyr cymeradwy Cyswllt Ffermio ar isadeiledd fferm, yn ymuno â Richard Evans, Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y cynlluniau newydd.

“Gallai cais grant llwyddiannus gynnig cyfle gwych i chi, i’ch busnes ac ar gyfer proffesiynoli a moderneiddio’r diwydiant ffermio a choedwigaeth yng Nghymru at y dyfodol,” meddai Mrs Williams.

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gofynnir i ffermwyr gysylltu â’u swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000813

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle