Athro’n helpu i hyrwyddo nanofeddygaeth ledled y DU yn ei rôl newydd

0
514

Mae’r Athro Steve Conlan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn rôl allweddol yn helpu i dynnu sylw at ymchwil i nanofeddygaeth yn y DU. 

Fe’i penodwyd yn Gadeirydd Cymdeithas Nanofeddygaeth Prydain (BSNM), sef sefydliad mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer cyflwyno newyddion i faes diwydiant, y byd academaidd, clinigwyr a’r cyhoedd am yr ymchwil barhaus i nanofeddygaeth ledled y DU. 

Esboniodd yr Athro Conlan, sef Pennaeth Mentergarwch ac Arloesi’r Ysgol Feddygaeth, fod nanofeddygaeth – sef defnyddio nanodechnoleg at ddibenion gofal iechyd – yn dal i fod yn gymharol newydd, ond mae ei manteision byd-eang yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae profion clinigol eisoes yn cael eu cynnal ar 50 o nanofeddyginiaethau. 

Meddai: “Mae nanofeddygaeth yn faes ymchwil cynyddol ac amrywiol sy’n cynnig triniaethau newydd ac arloesol y mae cleifion ledled y byd yn elwa arnynt. 

“Yma yn Abertawe, mae gennym dechnoleg o’r radd flaenaf a rhai o ymchwilwyr ac athrawon mwyaf blaenllaw’r byd yn y maes. Drwy Gymdeithas Nanofeddygaeth 

Prydain, byddwn yn gallu hyrwyddo syniadau am ymchwil a meithrin cydweithrediadau newydd a fydd o fudd i’r gymuned nanofeddygaeth ac a fydd yn helpu i ddatblygu dulliau diagnostig a therapiwtig mawr eu hangen.” 

Nod y Gymdeithas yw esbonio datblygiadau gwyddonol a masnachol parhaus fel y gall y cyhoedd ddeall y maes cyffrous hwn a chadw mewn cysylltiad ag ef wrth iddo effeithio ar ofal iechyd yn y dyfodol. 

Bydd yr Athro Conlan yn rhannu’r swydd â’i gyd-gadeirydd, Dr Tom McDonald, o Brifysgol Lerpwl. 

Un o’u cyfrifoldebau cyntaf fydd cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i ymchwilwyr gyrfa gynnar er mwyn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blynyddol a gynhaliwyd yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar 25 a 26 Tachwedd a bydd yn cynnig cyfle i ymchwilwyr gyrfa gynnar arddangos ymchwil arloesol a thrafod allbynnau a chyfleoedd ag ymchwilwyr ac arbenigwyr eraill ym maes nanofeddygaeth. 

Bydd hefyd yn cynnig cyfle i ymchwilwyr rwydweithio a chydweithredu â’r gymuned nanofeddygaeth ehangach yn ystod sesiynau grŵp rhyngweithiol. 

Gall ymchwilwyr iau (myfyrwyr PhD ac ôl-ddoethurol) rannu eu gwaith drwy gyflwyniad 15 munud. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, dylech e-bostio britishsocietyfornanomedicine@gmail.com erbyn dydd Gwener, 30 Hydref fan bellaf. 

Cynhelir y digwyddiad am ddim ar Zoom ac os hoffech gymryd rhan, gallwch gofrestru drwy Eventbrite, neu drwy fynd i wefan Cymdeithas Nanofeddygaeth Prydain. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle