Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei Asesiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2019-2020.
Mae’r Asesiad Perfformiad Blynyddol yn amlinellu’r modd yr ydym wedi perfformio o gymharu â’r Amcanion Gwella a Llesiant a bennwyd gennym yn ein Cynllun Corfforaethol 2019-2024. Mae hefyd yn nodi sut yr ydym wedi cyfrannu at y nodau Llesiant a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol yn dweud wrth ein staff, ein cymunedau a’n rhanddeiliaid pa ddeilliannau a buddion a gyflawnwyd o gymharu ag Amcanion Gwella a Llesiant y llynedd, a hefyd yn amlinellu’r meysydd hynny lle y defnyddiwyd arloesedd i wella ein gwasanaethau, yn ogystal ag amlygu’r meysydd lle y mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion.
Gellir dod o hyd i’r Asesiad Perfformiad Blynyddol ar ein gwefan, sef www.tancgc.gov.uk/cym/amdanom-ni/ein-cynlluniau-an-perfformiad/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle