Gofyn i roddwyr gwaed barhau i ddangos cefnogaeth yn ystod y cyfnod atal byr

0
386

  • Mae teithio i roi gwaed yn cael ei ystyried yn “deithio hanfodol” o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru

Gofynnir i roddwyr gwaed ar draws Cymru ‘barhau i roi gwaed’ yn ystod y cyfnod atal byr ar draws Cymru i helpu Gwasanaeth Gwaed Cymru i gynnal stociau gwaed iach ar gyfer y GIG

Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cyflwyno amserlen casglu gwaed newydd, lle cymerir rhoddion o tua phum canolfan rhoi gwaed rhanbarthol ar draws Cymru bob wythnos.

Mae’r canolfannau rhoi gwaed rhanbarthol mewn lleoliadau gwahanol bob wythnos, ac maen nhw wedi disodli’r hen fodel dros dro, oedd yn cynnwys cynnig sesiynau rhoi gwaed mewn tua 30 o leoliadau rhoi gwaed bob wythnos.

Mae lleihau nifer y lleoliadau sydd yn cael eu rhedeg wedi galluogi’r Gwasanaeth i ddiogelu ei raglen gasglu gwaed yn erbyn y posibilrwydd o sesiynau’n cael eu canslo oherwydd Covid-19 a phwysau staffio. Mae wedi caniatáu i leoliadau casglu gwaed gael eu haddasu’n llawn hefyd, i gydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol, ac maen nhw’n cael eu diheintio’n llwyr cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym eisiau i bob rhoddwr wybod bod teithio i leoliad rhoi gwaed drwy gydol y cyfnod atal byr ar draws Cymru, ac unrhyw gyfnod clo rhanbarthol wedyn sy’n cael ei weithredu, yn cael ei ystyried yn “deithio hanfodol” o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

“Drwy gydol y pandemig, mae rhoddwyr wedi parhau i fynd hyd yn oed ymhellach allan o’u ffordd nag y buasent yn mynd fel arfer i roi rhodd a allai achub bywydau, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cefnogaeth barhaus.

“Mae stociau gwaed yng Nghymru wedi aros yn iach drwy gydol y pandemig, diolch i ymrwymiad rhoddwyr newydd a rhai presennol, ond mae angen i bobl barhau i roi gwaed i sicrhau y gallwn barhau i ateb y galw mewn ysbytai yn ystod y misoedd nesaf.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dweud bod sesiynau casglu gwaed yn ddiogel. Mae ei staff wedi’u hyfforddi i reoli heintiau, ac mae’r sesiynau casglu gwaed wedi’u trefnu i ganiatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol diogel.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle