Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdodau Lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran sut i fod yn ddiogel ar gyfer y gweithgareddau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt sydd ar ddod.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdodau Lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran sut i fod yn ddiogel ar gyfer y gweithgareddau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt sydd ar ddod.
I lawer, yn enwedig plant a phobl ifanc, mae Calan Gaeaf yn gyfle i wisgo gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, dowcio am afalau, adrodd straeon brawychus ac wrth gwrs, y curo blynyddol ar ddrysau pobl y maent yn eu hadnabod i gael danteithion. Yn anffodus, bydd y coronafeirws a’r cyfyngiadau sydd ar waith yn effeithio ar Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, fel llawer o ddigwyddiadau eraill. Er ein bod am i bobl fwynhau eu hunain, gofynnwn i bawb feddwl sut y gallant Gadw Cymru’n Ddiogel y Calan Gaeaf a’r Noson Tân Gwyllt hyn, a pheidio â lledaenu’r coronafeirws.
Gyda hyn mewn golwg, bydd dathliadau eleni yn wahanol, ac rydym yn annog pawb i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru a pharchu cymdogion a allai fod yn hunanynysu, a bod yn ystyriol ohonynt. Bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a Lluoedd Heddlu Cymru yn atgyfnerthu’r negeseuon allweddol i blant a phobl ifanc fod yn ddiogel ar Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, a dangos parch tuag at eraill yn eu cymunedau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y cyhoedd i ddathlu’r ddwy noson yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi cael eu diweddaru, a gan fod cyfyngiadau symud llymach ar waith, rydym yn eich annog i fod yn ddiogel ac i ddilyn y cyngor diogelwch isod
- Os ydych am brynu tân gwyllt, cofiwch y gallant fod yn beryglus, ac mae risgiau ychwanegol y coronafeirws yn golygu y dylech feddwl yn ofalus iawn am wneud hynny eleni. Os byddwch yn prynu tân gwyllt at eich defnydd eich hun, dylech bob amser ddilyn y Cod Tân Gwyllt.
- Ar hyn o bryd mae Cymru o dan gyfyngiadau symud cenedlaethol. Felly cofiwch, os byddwch yn cael parti tân gwyllt yn eich tŷ neu eich gardd gydag ymwelwyr na chaniateir, byddwch yn torri’r gyfraith ac yn rhoi pawb mewn perygl o ddal COVID.
- Ni ddylech gynnau tân gwyllt mewn parc nac mewn man agored cyhoeddus arall. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwahardd hyn.
Mae’r Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a’r Awdurdodau Lleol yn cynghori’r cyhoedd yn gryf rhag adeiladu coelcerthi preifat.
Mae Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol GTACGC, Richie Vaughan-Williams yn esbonio:
“Mae GTACGC wedi ymrwymo i gadw cymunedau’n ddiogel, ac rydym yn annog y cyhoedd i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar Covid-19 a chadw pellter cymdeithasol. Gan fod Cymru o dan gyfyngiadau symud cenedlaethol, rydym yn annog y gymuned i barchu eu cymdogion, diogelu’r gwasanaethau brys a mwynhau dathliadau gartref.
Dros y cyfnod hwn, byddwn yn gweithio gyda’n sefydliadau partner, gan gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed sydd wedi bod yn destun ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau. Os ydych yn gwybod am unrhyw un sy’n gwerthu tân gwyllt anghyfreithlon, cysylltwch â’r Heddlu trwy ffonio 101.
Mae Richie Vaughan-Williams yn parhau:
“Cofiwch ei bod yn anghyfreithlon cynnau tân gwyllt ar ôl 11pm, ac rydym yn atgoffa ein cymunedau i ddathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel trwy ddilyn y Cod Tân Gwyllt ac i barchu cymdogion nad ydynt am gymryd rhan yn y dathliadau hyn. Rydym yn cynghori perchnogion anifeiliaid anwes i gadw eu hanifeiliaid dan do, gall y synau uchel godi ofn ar gathod a chŵn. Efallai y bydd gan eich cymdogion anifeiliaid anwes hefyd, byddwch yn ystyriol a rhowch wybod iddynt os ydych yn bwriadu dathlu. Byddwch yn ddiogel dros yr wythnosau nesaf a chofiwch barchu cymdogion, diogelu’r gwasanaethau brys a mwynhau’r dathliadau’n ddiogel, a sicrhau eich bod yn cadw at yr holl reolau o ran cyfyngiadau symud yng Nghymru.”
Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r cod tân gwyllt mae gan Sbarc gyngor rhagorol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle