Cynllun Corfforaethol Drafft Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2021-2026 Mae arnom angen eich barn!

0
454

MAWWFRS Authority Draft Corporate Plan 2021 – 2026 We need your input!

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgynghori ynghylch Cynllun Corfforaethol Drafft Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021-2026 yn agosáu.

Eich Gwasanaeth Tân ac Achub chi yw hwn, ac rydym yn awyddus i wybod eich barn am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a’r modd y gallwn barhau i wneud gwelliannau ac arbedion yn y dyfodol.

Cynllun Corfforaethol Drafft Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2021-2026

Mae arnom angen eich barn!

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgynghori ynghylch Cynllun Corfforaethol Drafft Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021-2026 yn agosáu.

Eich Gwasanaeth Tân ac Achub chi yw hwn, ac rydym yn awyddus i wybod eich barn am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a’r modd y gallwn barhau i wneud gwelliannau ac arbedion yn y dyfodol.

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn pennu ein Cyfeiriad Strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys ein pedwar Nod Strategol ac Amcanion Gwella a Llesiant Drafft ar gyfer 2021-2022. Mae’r Amcanion Gwella a Llesiant hyn wedi cael eu pennu yng nghyd-destun yr heriau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent hefyd yn adlewyrchu’r awydd i groesawu syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac rydym wedi croesawu ein dyletswyddau a’n rôl fel partner statudol ledled ein chwe Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Credwn fod cydweithredu yn allweddol i ddyfodol ein gwasanaethau brys, gan ein galluogi i wella’r ffordd yr ydym yn gweithio, rhannu ein hadnoddau dynol ar ariannol, ac, yn y pen draw, achub rhagor o fywydau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion arloesol i wella’r modd yr ydym yn gweithio, gwella diogelwch ar gyfer y diffoddwyr tân, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, ac, yn y pen draw, cyfrannu at lesiant ein cymunedau.

Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i chi gael ‘dweud eich dweud’ ynghylch y cynigion a amlinellir yn ein Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer 2021-2026. Os ydych yn dymuno rhoi sylwadau ar y cynllun, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 04 Rhagfyr 2020.

I weld ein Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer 2021-2026, ac i ymateb iddo, ewch i’n gwefan: https://www.tancgc.gov.uk/cym/

Rydym yn croesawu eich adborth yn fawr, a phob wythnos yn ystod ein proses ymgynghori, rydym yn cynnig cyfle i ennill taleb rhodd gwerth £25! Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni beth yw eich barn trwy lenwi ein holiadur ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a’r telerau ac amodau, ewch i’n gwefan.

Gallwch hefyd:

  1. Ein ffonio ar 0370 6060699 a gofyn am yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes.
  2. Anfon neges e-bost atom i’r cyfeiriad haveyoursay@mawwfire.gov.uk.
  3. Ysgrifennu atom yn Rhadbost GTACGC, Pencadlys y Gwasanaeth, Heol Llwyn Pisgwydd, Caerfyrddin, SA31 1SP.​
  4. Mynd i’n tudalen Facebook neu ein dilyn ar Twitter @mawwfire.

Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn neilltuo amser i fynegi eich barn.

Bydd yna hefyd gyfle hefyd i ymuno â gweminar gyda’r Dirprwy Brif Swyddog Tân, Roger Thomas, a hynny ddydd Llun 9 Tachwedd 2020 am 19:00. Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â’r weminar yn cael eu cylchredeg ar ein llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol yn agosach at y dyddiad. Fodd bynnag, mae croeso i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau neu arsylwadau ynghylch ein Cynllun Corfforaethol Drafft 2021-2026 cyn y weminar, a hynny i haveyoursay@mawwfire.gov.uk

Gwybodaeth Cyswllt

Sophie Rees
sophie.rees@mawwfire.gov.uk

  • The Mid and West Wales Fire and Rescue Service serves Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea, Powys and Neath Port Talbot.  The Service covers some 4,500 square miles and makes-up almost two-thirds of the landmass of Wales
  • A wide variety of risks are found within the operational area ranging from the petro-chemical industries in Milford Haven, Pembrokeshire and Briton Ferry, Neath, to the risks associated with heavily populated areas such as Swansea, Port Talbot and Llanelli.  There is an extensive farming community and many other light industries throughout the area.  These, together with an extensive coastline and inland waterways are some of the specialised risks within the Mid and West Wales region.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle