Cyllid newydd yn gwneud gwahaniaeth i brosiectau ymchwil a allai achub bywydau

0
651

Mae pedwar prosiect gan Brifysgol Abertawe sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth a allai achub bywydau cleifion wedi cymryd cam mawr i’r cyfeiriad cywir. 

Mae’r mentrau yng Nghanolfan NanoIechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol fel rhan o ddyfarniad Confidence in Concept (CiC) 2020. Mae’r dyfarniad yn ceisio mynd â phrosiectau nanofeddygaeth o’r cam ymchwil a darganfod tuag at eu datblygu a chyflawni’r nod o gynnig budd i gleifion. 

Ar ôl sicrhau cyllid CiC am ddwy flynedd, gall y pedwar prosiect annibynnol ddechrau gwneud cynnydd pwysig. 

  • Mae heintiau organau atgenhedlu benywol yn her ddifrifol i iechyd atgenhedlu byd-eang, felly mae Dr Gareth Healey a’i dîm yn archwilio nanodechnoleg cyflwyno gwrthfiotigau drwy grisialau hylif. Ar ôl datblygu dull syml a rhad sy’n cynnig y posibilrwydd o gyflwyno gwrthfiotigau’n ddiogel a chynyddu effeithiolrwydd cyffuriau, gall y prosiect gymryd y camau nesaf tuag at fasnacheiddio a symud ymlaen i brofion clinigol. Mae’r buddion posib yn cynnwys cynyddu effeithiolrwydd gwrthfiotigau presennol, fel y gellir trin heintiau’n haws, gan leihau ymwrthedd i wrthfiotigau a lliniaru dioddefaint miliynau o fenywod. 
  • Er mwyn cynorthwyo’u twf cyflym, mae celloedd canser ymosodol sydd ag ymwrthedd i gyffuriau yn drech na chelloedd imiwnedd wrth gystadlu am y maetholion y mae eu hangen ar gelloedd imiwnedd er mwyn gweithredu’n gywir. Mae celloedd canser hefyd yn gallu cuddio ac osgoi ymosodiadau gan y system imiwnedd drwy achosi i gelloedd imiwnedd flino. Mae Dr James Cronin a Dr Nick Jones o’r Ysgol Feddygaeth, a’r Athro Juan Mareque-Rivas o’r Adran Cemeg, yn defnyddio nanodechnoleg uwch ar gyfer brechlyn i ailddeffro’r system imiwnedd er mwyn adfer y gallu i dargedu celloedd canser yn effeithiol.  
  • Mae’r Athro Karl Hawkins yn datblygu prawf gwaed newydd ar gyfer sepsis. Mae sepsis yn gyflwr sy’n bygwth bywyd, ond os caiff ei ddehongli’n ddigon cynnar, mae’n hawdd ei drin â gwrthfiotigau. Bydd y prawf yn cynnwys mesur rheoleg gwaed, a fydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch pa mor effeithlon y gall eich celloedd gwaed deithio drwy eich corff cyfan. Gan ddefnyddio nanodechnoleg, y nod tymor hwy yw dylunio a gweithgynhyrchu dyfais fach y gellir ei defnyddio mewn ysbytai a’r gymuned ehangach, er mwyn gweld arwyddion cynnar y clefyd. 
  • Gwella effeithiau’r cyffuriau a ddefnyddir i ymdrin â thyfiannau canser yr ofari yw nod prosiect Dr Lewis Francis. Mae wedi nodi nanoronynnau polymer a chanddynt y nodweddion ffisegol a chemegol mwyaf addas ar gyfer cronni clefyd a chynyddu swm y cyffur gweithredol, sefydlog a gyflwynir i gelloedd afiach. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd y driniaeth. Bydd y cyllid yn rhoi cyfle i’r tîm ymgymryd ag astudiaethau rhagarweiniol allweddol i ddeall effaith nodweddion ffisiocemegol hanfodol ar ddosbarthiad biolegol a thargedu’r ofarïau. Y bwriad wedyn yw integreiddio’r systemau cyflwyno hyn mewn prosiectau datblygu cyffuriau – gan lywio therapïau’r genhedlaeth nesaf ar gyfer canserau gynaecolegol. 

Meddai’r Athro Steve Conlan, un o gyfarwyddwyr sylfaenu’r Ganolfan NanoIechyd, a Phennaeth Mentergarwch ac Arloesi’r Ysgol Feddygaeth

“Mae pob un o’r prosiectau hyn yn ceisio mynd i’r afael â materion pwysig sy’n peri penbleth ym maes gofal iechyd ac mae ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Diolch i’r cyllid, gall ein hymchwilwyr bellach gynnal yr arbrofion hanfodol i ddatblygu’r cysyniadau sefydledig, a’u trosglwyddo i gynlluniau cyllido mwy a meithrin cydweithrediadau â phartneriaid diwydiannol. 

“Rydym yn falch ein bod yn adeiladu llwybr cryfach, gan fynd â phrosiectau ymarferol fel y rhain gam yn agosach at y cleifion sydd mewn angen.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle