Helpu i lunio gwasanaethau fferyllol i’r dyfodol

0
524
Prince Philip Hospital

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i rannu eu barn ar wasanaethau fferyllol cymunedol.

Cesglir adborth trwy arolwg, a fydd yn dechrau ar 12 Tachwedd 2020 ac yn rhedeg am bedair wythnos.

Bydd y wybodaeth o’r arolwg yn cael ei defnyddio i baratoi Asesiad o Anghenion Fferyllol, a fydd yn ystyried ble y lleolir fferyllfeydd a pha mor bell y mae’n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a ydy gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Bydd y canfyddiadau yn helpu i benderfynu a oes angen mwy o fferyllfeydd neu wasanaethau mewn ardaloedd penodol, ac yn cynorthwyo’r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau i ddatblygu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol.

Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma’r ymgysylltu mwyaf erioed yng Nghymru i edrych ar wasanaethau fferyllol cymunedol a bydd yn gyfle i bobl rannu barn ar ddarpariaeth fferyllol presennol a fydd yn llunio’r gwasanaethau hyn i’r dyfodol.”

Meddai Gareth Harlow, Fferylydd Cymunedol: “Fel fferyllydd cymunedol, anogaf y cyhoedd i lenwi’r arolwg er mwyn ein helpu i ganfod pa wasanaethau yr hoffech i fferyllfeydd eu cynnig.

“Mae fferyllfeydd cymunedol bob amser wedi ymdrechu i sicrhau mae iechyd a llesiant y cyhoedd yw ein blaenoriaeth pennaf, a thrwy roi adborth inni gallwn wneud yn siwr ein bod yn gwneud pethau’n iawn.”

Gellir llenwi’r holiadur ar-lein trwy’r https://www.surveymonkey.co.uk/r/YB6STLJ neu bydd copïau papur ar gael yn eich fferyllfa leol.

Cyhoeddir y canlyniadau mewn Asesiad o Anghenion Fferyllol drafft yn ystod gwanwyn 2021 a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y bwrdd iechyd.

Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch llenwi’r arolwg, ebostiwch kelly.white@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01554 783745.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle