Yn dilyn cyfnod helaeth o gynllunio a pharatoi mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd cleifion sydd angen gofal llai dwys yn ne orllewin Cymru ymhlith y cyntaf i gael eu derbyn i ysbytai maes newydd.
Daw’r cyhoeddiad gan y Bwrdd Iechyd fel rhan o’u hymateb parhaus i bandemig Covid-19. Mae’r strategaeth yn cynnwys agor tua 30 o welyau yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac yn Ysbyty Enfys Carreg Las yn Sir Benfro ar gyfer cleifion nad ydynt yn Covid o ganol mis Tachwedd, a fydd yn caniatĂĄu i’r bwrdd iechyd reoli cleifion a llif yn ein ysbytai acĂwt yn well.
Maeâr cleifion – a fydd yn cael gofal gan dĂŽm amlbroffesiynol profiadol gan gynnwys nyrsys, therapyddion a swyddogion cyswllt cleifion – wedi cael eu hasesu fel rhai nad sydd angen unrhyw fewnbwn meddygol, ond yn dal i fod angen rhywfaint o ofal cyn cael eu rhyddhau gartref neu i gyfleuster gofal yn y gymuned.
Mae ysbytai maes wedi’u sefydlu ym mhob un o dair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel mesur rhagofalus i alluogi’r GIG i ymateb i’r pandemig COVID cyfredol. Dros yr haf derbyniwyd nifer fach o gleifion i’r cyfleuster yng Nghaerfyrddin fel rhan o beilot o’r gwasanaeth, sydd wedi helpu i lywio sut rydym yn defnyddio’r safleoedd hyn yn ddiogel ac yn briodol.
*Nodwch â nid oes adran frys nac unrhyw wasanaeth cerdded-mewn arall yn unrhyw un oâr ysbytai hyn ac ni ddylai aelodauâr cyhoedd geisio eu defnyddio. Mae cyfyngiadau ar ymweld yr un fath â phob ysbyty arall, ond gall staff gofal iechyd helpu i gysylltu cleifion ââu teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.
Eglura Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol yr ysbytai maes a thrawsnewid : âOâr dechrauân deg, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddioâr ysbytai maes hyn mewn modd hyblyg yn seiliedig ar y gofyn o ganlyniad iâr pandemig Coronafeirws. Maeâr gweithgarwch hwn ynghyd âân gweithgarwch arferol o ran gofal heb eu drefnu, wedi cyrraedd y lefel y cytunwyd arni fel y lefel y byddai angen capasiti ychwanegol oâr ysbytai maes.
âGosodwyd y lefel hon yn Ă´l sawl ystyriaeth gan gynnwys yr angen i fod ââr gallu i dderbyn cleifion COVID iâr prif ysbytai acĂwt yn unol ââr galw ar draws y system, gan allu cael y nifer iawn o gleifion i gadw at y mesurau atal heintiau cyfredol a chanllawiau clinigol newydd, ac i adfer rhai gweithdrefnau brys a chritigol eraill sydd wediâu cynllunio, a hynny mewn modd diogel ar gyfer ein cleifion. â
Mae staffio ar gyfer y cyfleusterau wedi bod yn bosibl diolch i hyblygrwydd y staff gofal iechyd cyfredol yn Hywel Dda, y mae rhai ohonynt yn gweithio dros dro mewn gwahanol rolau neuân gweithio mwy o oriau; yn ogystal ag aelodau blaenorol o staff sy’n dychwelyd i’r gwaith a recriwtio ychwanegol.
Ychwanega Dr Jones: âBydd agor y ddau ysbyty hyn yn rhyddhau rhywfaint o gapasiti yn ein safleoedd acĂwt ac yn cefnogi adfer gweithdrefnau brys sydd wediâu cynllunio. Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith y mae gohirio wedi’i chael ar gleifion ac ansawdd eu bywyd.â
Mae pob un o’n hysbytai maes ar gael i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg pe bai angen. Mae ysbytai acĂwt, oherwydd eu gallu gofal dwys, mynediad i theatrau a chyflenwadau fel ocsigen, a’r rhwydwaith cymorth o amgylch yr ysbyty, yn y sefyllfa orau i ddelio â chleifion sydd angen ymyrraeth feddygol fwy acĂwt ac felly byddant yn parhau i fod y prif safleoedd ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael (COVID a heb fod yn COVID).
Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: âYn ganolog i’n datblygiad o’r ysbytai maes bu’r hyblygrwydd y gallent ei ganiatĂĄu i ni allu rheoli capasiti a’r galw cyffredinol trwy gydol y pandemig hwn.
âYn anffodus nid yw COVID yn mynd i ddiflannu, ac felly mae angen i ni seilio ein cynlluniau nid yn unig ar sut rydym yn rheoli cleifion COVID, ond hefyd ar sut y gallwn ailgychwyn gwasanaethau eraill a darparu parhad gofal ar draws y system.
âMae ein cynllunio a’n darpariaeth yn seiliedig ar gyngor clinigol cenedlaethol a lleol, a bydd yn parhau i wneud hynny, gyda’r nod yn y pen draw o gadw ein poblogaeth mor ddiogel â phosib pan fydd angen iddynt ddefnyddio ein gwasanaethau i gael gofal.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle