AS yn galw am fwy o orfodaeth dros dân gwyllt heb eu rheoleiddio

0
2164
Plaid Cymru's Helen Mary Jones

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd, cododd AS y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones fater tân gwyllt yn cael eu tanio’n ddireol yn Llanelli, Pontyberem a Chydweli.

Dywedodd AS Plaid Cymru Helen Mary Jones:

 “Rwyf wedi cael toreth o alwadau yr wythnos ddiwethaf hon o lefydd fel Llanelli, Pontyberem, Cydweli, lle gall y defnydd heb ei reoleiddio o dân gwyllt fod wedi bod yn fwy na’r arfer oherwydd, wrth gwrs, nad oedd unrhyw arddangosiadau ffurfiol.

“Dywedwyd wrthym nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i reoli tân gwyllt, ac yn amlwg, nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei newid yn sydyn.

“Gofynnais i’r Prif Weinidog edrych eto ar orfodaeth a’r cydweithrediad gydag awdurdodau lleol a’r heddlu yn y cyfnod cyn y Flwyddyn Newydd, sef amser arall pan ddefnyddir llawer o dân gwyllt.

“Hoffwn wneud yn siŵr fod digon o allu ac i Lywodraeth Cymru adolygu a fydd angen unrhyw adnoddau pellach, naill ai gan yr heddlu neu gan awdurdodau lleol, i’w galluogi i blismona’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn effeithiol.

“Gall hyn beri cryn dipyn o loes i unigolion, fel rhai plant ifanc iawn, yr henoed a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog, yn ogystal ag i anifeiliaid anwes a da byw. Mae yna effaith hefyd ar ansawdd aer.”

Addawodd y Prif Weinidog ystyried gweithio gyda’r heddluoedd a’r awdurdodau lleol, er mwyn dysgu gwersi o Noson Tân Gwyllt.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli’r defnydd o dân gwyllt. Mae gwerthiant a defnydd tân gwyllt yng Nghymru yn dod dan reoliadau sy’n gorwedd gyda Gweinidogion y DG.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle