Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio ei Apêl Nadolig flynyddol Anfonwch Anrheg

0
1168

Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio ei Apêl Nadolig flynyddol Anfonwch Anrheg – ac eleni bydd yn cefnogi oedolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r apêl, a lansiwyd ddydd Llun, 16eg Tachwedd, yn rhedeg dros gyfnod o chwe wythnos ac yn annog ein cymunedau lleol i brynu anrheg o ddetholiad o eitemau sydd wedi’u dewis yn ofalus gan therapyddion galwedigaethol y bwrdd iechyd a fydd o fudd i oedolion iau yn eu cartref, yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

Gellir dod o hyd i’r rhestr dymuniadau Anfonwch Anrheg trwy ymweld â: www.hywelddahealthcharities.org.uk

Mae Timau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofalu am gleifion mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’r timau wedi dewis eitemau yn ofalus a fydd o’r fudd mwyaf i’w cleifion.

Mae’r anrhegion a ddewiswyd ar gyfer Apêl Anfonwch Anrheg eleni yn cynnwys eitemau fel deunyddiau celf a chrefft, offerynnau cerdd ac eitemau sbwylio i gefnogi llesiant a hunanofal.

Bydd oedolion ym mhob un o’r tair sir yn elwa o’r anrhegion a brynir.

Dywedodd Nicky Thomas, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Proffesiynol Iechyd Meddwl Hywel Dda, eu bod wrth eu bodd bod gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan o’r Apêl Anfonwch Anrheg ar gyfer 2020.

“Bydd yr eitemau ar y rhestr ddymuniadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cleifion a bydd yn caniatáu i staff gefnogi unigolion â llesiant corfforol ac emosiynol, magu hyder a hyrwyddo annibyniaeth mewn gweithgareddau bob dydd,” meddai Nicky.

“Rydyn ni fel tîm bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella bywydau’r oedolion rydyn ni’n gweithio gyda nhw a hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cefnogaeth a’u haelioni aruthrol.”

Dywedodd Sara Rees, Pennaeth Dros Dro Nyrsio, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: “Rydym yn falch iawn o lansio ein Apêl Anfonwch Anrheg am y bumed flwyddyn yn olynol gyda’r nod o wneud y Nadolig yn un arbennig i’n cleifion sy’n oedolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl.

“Bydd pob anrheg a brynir yn gwneud gwahaniaeth go iawn y Nadolig hwn a byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gefnogaeth.”

Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau yn nhair sir y bwrdd, yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl, cysylltwch â’r tîm codi arian ar 01267 239815 neu
codiarian.hyweldda@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle