Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi Rail Aid â sef ymgyrch codi arian newydd syân gobeithio atal effaith coronafeirws ar fywydau plant.
Cynhelir Rail Aid rhwng dydd Sul 22 a dydd Gwener 27 Tachwedd ac maeân dwyn ynghyd teuluâr rheilffyrdd o weithredwyr trenau, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Cymru, cyflenwyr, busnesau o gwmpas y rhwydwaith rheilffyrdd ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y rheilffyrdd.
Mae wediâi sefydlu i helpuâr elusen Railway Children i roi cymorth newid bywyd i blant y stryd yn y DU, India ac Affrica.
Fel rhan oâu cefnogaeth, bydd staff TrC yn cymryd rhan mewn her 5-5-5, gan symud am 5 cilometr (rhedeg, cerdded, hercian, nofio, beicio, mynd ar sgwter neu unrhyw beth arall a ddaw iâch meddwl!) gan roi ÂŁ5 ac enwebu 5 arall i ddal ati gydaâr her. Y gobaith yw cwmpasu pellter rhwydwaith cyfan TrC a chyfrannu at nod ehangach Rail Aid o gwmpasu holl rwydwaith y DU.
Bydd cydweithwyr yn cynnal rafflau lleol yn rhithwir, gyda Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i roi cyllid cyfatebol am y swm a godir.
Meddai Marie Daly, y Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu: âEr bod y flwyddyn ddiwethaf wedi gweddnewid ein bywydau, rydym yn gwybod fel sefydliad bod yn rhaid i ni gyd-dynnu a chefnogi’r rhai sydd wediâu heffeithio galetaf yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
âMae Rail Aid yn ysgogi angerdd a chefnogaeth o bob cwr oâr rhwydwaith ac maeân cyd-fynd iâr dim ââr gwerthoedd sydd wrth wraidd dyhead Trafnidiaeth Cymru i fod yn deg, cadarnhaol a chysylltiedig.
âRydym wrth ein bodd i allu cynnig cyllid cyfatebol i ymdrechion rhagorol ein cydweithwyr a da fyddai cael ein cwsmeriaid iân cefnogi i gyrraedd ein nod yn y pen draw.â
Bob blwyddyn mae miloedd o blant ledled y DU, India a Dwyrain Affrica yn rhedeg i ffwrdd neuân cael eu gorfodi i adael eu cartrefi sydd wedi troiân annioddefol oherwydd tlodi, cam-drin, trais ac esgeulustod.
Mae cyrraedd y plant cyn gynted â phosibl yn hollbwysig, gan gyrraedd plant ar y strydoedd cyn y gall camdriniwr eu cyrraedd, a chyn iddyn nhw ddod i arfer â bywyd ar y stryd. Mae Railway Children ar ras yn ceisio cyrraedd y plant cyn iâr strydoedd gael gafael arnyn nhw.
Mae TrC, sydd ââi rhwydwaith yn cwmpasu mwy na 1,700 cilometr, yn cynnal gwasanaethau mewn mwy na 25 ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Dewisodd TrC Railway Children fel ei helusen ar gyfer 2019 ac maeân cymryd ei chyfrifoldeb cymdeithasol a masnachol o ddifrif. Mae nifer o fentrau ar y gweill, gan gynnwys ailddefnyddio gofodau gwag mewn gorsafoedd ar gyfer mentrau cymdeithasol.
Er mwyn ymuno yn yr ymgyrch, lawrlwythwch âMy Virtual Missionâ yn eich siop ap, cliciwch âJoin A Missionâ a chofrestrwch gydaâch manylion. Yna:
- Cliciwch âJoin A Missionâ a chofrestrwch gydaâch manylion
- Cliciwch âMenuâ a âDiscover/Searchâ yna teipiwch âRail Aid Get On Trackâ â a dewiswch y tĂŽm âTransport for Walesâ
- Rydych chiân barod i ddechrauâr her!
I roiâch ÂŁ5, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/transport-for-walesrailaid
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle