Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am aelodau grŵp cynghori

0
429

Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am dri aelod gwirfoddol ar gyfer Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy er mwyn helpu’r sefydliad i weithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd y gwirfoddolwyr yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy. Mae hwn yn grŵp newydd sy’n cael ei sefydlu i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni ei holl waith yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd, Deddf Teithio Llesol a deddfwriaethau perthnasol eraill.

Bydd aelodau’r grŵp cynghori yn helpu i graffu ar waith Trafnidiaeth Cymru ac yn sicrhau bod datblygiadau’n cael eu rhannu â’i randdeiliaid.

Bydd y grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, ar-lein i ddechrau. Ond bydd cyfle i gyfarfod go iawn yn y dyfodol, mewn lleoliadau mwy diddorol, pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau er mwyn dod yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd aelodau gwirfoddol y bwrdd cynghori newydd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein helpu ni i sicrhau bod cwsmeriaid a chymunedau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

“Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddenu pobl sydd â phrofiad o’r ‘Dulliau o Weithio’ Atal, Integreiddio a Hirdymor, fel sy’n cael eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni nifer o brosiectau unwaith-mewn-cenhedlaeth dros y degawd nesaf, ac mae hwn yn gyfle cyffrous i aelodau’r cyhoedd fod yn rhan flaenllaw o hynny.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy gysylltu â Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, drwy anfon e-bost at natalie.rees@tfw.wales neu ffonio 02921 054 015 erbyn 27 Tachwedd 2020.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle