Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi ymateb i Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU heddiw drwy fynegi ei phryder a’i siom aruthrol bod addewidion wedi cael eu torri a’r penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud.
Galwodd Llywodraeth Cymru ar y Canghellor i ymwrthod yn llwyr rhag rhewi cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus a’i annog i ddefnyddio ysgogiadau Trysorlys y DU i gefnogi chwarae teg a galw economaidd. Mae’r penderfyniad hwn yn annheg ac yn diystyru’r aberth y mae gweithwyr y rheng flaen wedi’i wneud gydol yr argyfwng.
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn anhapus iawn ynglŷn â’r setliad cyfalaf hynod siomedig, sydd lawer yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Mae Llywodraeth y DU yn siarad yn fras am fuddsoddi mewn adferiad, ond mae’n gwrthod buddsoddi ynddo. Mae ffigurau heddiw yn tanseilio ein gallu i gynllunio ar gyfer ein hadferiad, a buddsoddi ynddo, yn llwyr.
“Methodd y Canghellor gydnabod hefyd yn ei ddatganiadau heddiw mai i Loegr yn unig y mae unrhyw setliadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer sawl blwyddyn yn berthnasol – dydyn nhw ddim yn berthnasol i Gymru. Mae’r dasg sy’n ein hwynebu ar gyfer cynllunio at y dyfodol yn anodd iawn felly.”
Nid oedd setliad heddiw yn cynnig unrhyw beth newydd i Gymru. Er gwaethaf galwadau i Lywodraeth y DU ddarparu sicrwydd hirdymor i gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan stormydd a materion diogelwch tomenni glo, cafodd blaenoriaethau Cymreig eu hanwybyddu.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Gallai’r Canghellor fod wedi defnyddio ei ddatganiad heddiw i gyflwyno setliad hirdymor sy’n cydnabod o’r diwedd y pryder sy’n cael ei deimlo ymhlith cymunedau a gafodd eu heffeithio gan lifogydd a chan oblygiadau sy’n deillio o’n hen byllau glo.”
Er gwaetha’r geiriau dymunol gan y Canghellor ynglŷn â ‘chodi’r gwastad’, yr hyn a oedd yn gwbl glir o’r datganiad heddiw yw bod Cymru yn mynd i fod o dan anfantais sylweddol, diolch i lywodraeth sy’n torri ei holl addewidion ynglŷn ag arian yn lle cyllid yr UE.
Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud hefyd:
“Mae’r ffaith bod y Canghellor wedi gwrthod diogelu taliadau Credyd Cynhwysol yn golygu bod baich yr argyfwng yn mynd i gael ei roi ar ysgwyddau’r rheini sydd yn y sefyllfa fwyaf anghenus i ddechrau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle