Hywel Dda UHB statement in response to flu vaccine extension

0
472

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir a Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Efallai eich bod yn ymwybodol o gyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru y bydd brechiadau ffliw am ddim nawr i bobl 50 oed i 64 oed.

“Byddwch yn amyneddgar tra bod ein cydweithwyr mewn meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol yn cynllunio ar gyfer y newid yma. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â’ch meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol ar hyn o bryd ynghylch y brechlyn ffliw.

“Byddwn yn darparu diweddariad cyn gynted â phosibl gyda gwybodaeth am sut y gall pobl gael gafael ar y brechlyn ac o ble – ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y brechlyn ffliw ar gael ar gyfer y grŵp cymwys newydd hwn o’n holl feddygfeydd teulu neu fferyllfeydd cymunedol. Bydd eglurhad yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosibl.“Sylwch, os ydych chi rhwng 50 oed a 64 oed â chyflwr iechyd tymor hir ac eisoes wedi derbyn gwahoddiad i dderbyn brechlyn ffliw, ewch ati i drefnu eich apwyntiad yn unol â chais eich meddyg teulu.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle