Wrth ymateb i gynlluniau ar gyfer cyfyngiadau newydd ar y diwydiant lletygarwch, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Rydym yn cefnogi’r cyfyngiadau pellach ar y diwydiant lletygarwch i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ac atal ein hysbytai rhag cael eu llethu. Mae gweithlu’r GIG wedi gweithio’n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig hwn, ac ni allwn adael i’n hymdrechion lithro nawr bod brechlyn ar y gorwel.
“Ond bydd y cyfyngiadau’n golygu bydd oriau a shifftiau gweithwyr yn cael eu torri cyn y Nadolig. Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yno i leihau colli incwm pan fydd cyfyngiadau fel hyn ar waith. Rhaid i gyflogwyr ystyried ar frys sut i ddefnyddio’r cynllun hwn i’r eithaf – dylen nhw roi gweithwyr ar ffyrlo am unrhyw oriau a gollwyd fel bod eu hincwm yn cael ei ddiogelu gymaint â phosibl.
“Ac os ydych chi’n poeni am eich swydd neu incwm nawr bod cyfyngiadau newydd yn dod i mewn, siaradwch â’ch undeb llafur am beth yw eich opsiynau a’ch hawliau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle