Arweinydd Plaid yn ymuno â Phlaid y Genedl Gymreig (WNP)

0
525
Cynghorydd Tim Thomas

Mae’r Cynghorydd Tim Thomas wedi gadael Plaid Cymru ac wedi ymuno â Phlaid y Genedl Gymreig (WNP).

Mae’r Cynghorydd Tim Thomas, sy’n cynrychioli ward Ynysawdre ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â Phlaid y Genedl Gymreig (WNP).

Mynegodd y cyn Arweinydd Grŵp, a gynrychiolodd Blaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad a San Steffan, ei rwystredigaethau ynghylch y Blaid sy’n ‘cylchdroi fwyfwy o amgylch swigen Bae Caerdydd’ ac sydd wedi ‘colli cysylltiad â’r bobl gyffredin rwy’n eu cynrychioli yn Ynysawdre. ‘

Mewn datganiad a wnaed gan y Cynghorydd Thomas, dywedodd, fel Arweinydd Grŵp ym Mhen-y-bont ar Ogwr, nad oedd gan Blaid Cymru ar lefel genedlaethol unrhyw gyswllt ag ef o gwbl ac mai cysywllt cyfyngedig oedd ganddo ag Aelodau rhanbarthol y blaid yn y Senedd.

Erbyn hyn mae gan Blaid y Genedl Gymreig wyth Cynghorydd mewn pedwar awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o’r Senedd.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas y bore yma,

“Daeth yn amlwg i mi fod cymunedau dosbarth gweithiol fel yr un rwy’n eu cynrychioli – a gadewch i ni fod yn onest, fel llawer o gymunedau ledled rhanbarth y De Orllewin, yn cael eu hanwybyddu.

“Mae ymuno â Phlaid y Genedl Gymreig wedi bod yn chwa o awyr iach. Rydym yn barod i lansio polisïau y mae llawer o bobl ar stepen y drws yn siarad amdanynt. Mae gweledigaeth Plaid y Genedl Gymreig o greu Cymru well yn un y gall cymunedau yng Nghymru unieithu ag ef.

“Mae gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi troi braidd yn ddi-fflach. Rwy’n credu mai Plaid y Genedl Gymreig yw’r llais newydd cyffrous hwnnw a fydd yn aildanio gwleidyddiaeth Cymru.

Croesawodd Arweinydd Plaid y Genedl Gymreig, Neil McEvoy, y newyddion,

“Mae’n wych gweld Cynghorydd mor weithgar â Tim yn ymuno â Thîm Plaid y Genedl Gymreig. Mae angen pencampwyr ar Gymru ac mae Tim yn sicr yn hyrwyddwr dros ei gymuned a thros Gymru.

“Bellach mae’r gwynt yn ein hwyliau fel plaid. Mae gennym Gynghorwyr ac aelodau talentog iawn yn ymuno yn eu cannoedd ledled y wlad a’r Cynghorydd Thomas yw’r aelod diweddaraf o’n tîm rhagorol.

“Rwy’n rhagweld y bydd Plaid y Genedl Gymreig yn croesawu mwy o gynrychiolwyr etholedig o bob rhan o Gymru i ymuno â’n mudiad yn ystod y misoedd nesaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle