Ymgyrch newydd yn annog pobl i ‘sicrhau eich bod yn gwybod am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau cyflogaeth’

0
400
Hannah Blythyn AM Deputy Minister for Housing and Local Government

A COVID-19 yn gefndir iddo, cyhoeddwyd ymgyrch newydd gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a hynny er mwyn cryfhau dealltwriaeth pobl o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Phartneriaid Cymdeithasol, TUC Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambr Fasnach De Cymru a phartneriaid allweddol eraill, ACAS a Cyngor ar Bopeth, i lansio ymgyrch a fydd yn codi ymwybyddiaeth am y cymorth arbenigol sydd ar gael i weithwyr a busnesau.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng cyflogwyr, gweithwyr ac undebau llafur er mwyn gwneud gweithleoedd yn well, yn decach ac yn fwy diogel i bawb.

Bydd yr ymgyrch yn cyfeirio gweithwyr a chyflogwyr at wybodaeth a chyngor arbenigol, a bydd hefyd yn annog gweithwyr i ymuno ag Undeb Lafur fel y ffordd orau o ddiogelu eu hawliau yn y gwaith. Yn y cyfamser, anogir cyflogwyr i geisio aelodaeth â sefydliad cynrychioliadol lle y mae modd iddynt gael cyngor a chymorth proffesiynol.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Mae cyfraith cyflogaeth yn gallu bod yn faes cymhleth a thechnegol iawn. Oherwydd hyn, yn aml nid yw llawer o weithwyr a busnesau yng Nghymru yn ymwybodol o’u hawliau na’u cyfrifoldebau.

“Mae hyn yn bryder ers tro, ond mae argyfwng COVID-19 a’r heriau cysylltiedig wedi cynyddu’r pwysau i weithredu nawr. A minnau wedi treulio dros ddeng mlynedd mewn undebau llafur fy hun, rwy’n gwybod yn iawn pa mor bwysig ydyw bod gweithwyr a chyflogwyr yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau, a’r manteision sy’n dod yn sgil cynrychiolaeth a chyngor arbenigol.

“Gall gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth helpu i roi hyder i bobl a’u galluogi i ddiogelu eu hawliau, tra bydd modd i gyflogwyr gael mynediad at y gefnogaeth a’r cyngor y gallai fod eu hangen arnynt i aros o fewn ffiniau’r gyfraith yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

I ganfod rhagor am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/hawliau-chyfrifoldebau-yn-y-gweithle


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle