Castell-nedd Port Talbot yn urddo Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid newydd

0
356
Erin

Mae Maer Ieuenctid newydd Castell-nedd Port Talbot wedi addo “hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc” mewn seremoni urddo rithwir a gynhaliwyd ddydd Iau (10 Rhagfyr).

Yn dilyn etholiad a drefnwyd gan Gyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yn Tachwedd, etholwyd Erin Sanderson, 18 oed o Waunceirch i gamu i rôl y Maer Ieuenctid. Cyflwynwyd y rôl am y tro cyntaf y llynedd fel ymgais i roi llais i bobl ifanc a’u helpu i gael dweud eu dweud am faterion lleol.

Mae Erin yn gyn-ddisgybl Ysgol Dŵr-y-Felin a chafodd ei dewis yn ddiweddar i fod yn llysgennad iechyd meddwl ar gyfer Inspirational Futures, sefydliad a sefydlwyd gan athrawon i gynnig cymorth o ran lles ac ymwybyddiaeth ofalgar i ddisgyblion, rhieni a staff addysgu.

Cynhaliwyd y seremoni urddo ar-lein oherwydd y pandemig Coronafeirws presennol ac roedd dros 40 o bobl yn bresennol, a oedd yn cynnwys arweinwyr cymunedol allweddol, ffrindiau a theulu.

Yn ei haraith gyntaf fel Maer Ieuenctid, meddai Erin, “Rwy’n gwneud addewid i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal, gan roi sylw penodol i’r rhai mwyaf diamddiffyn, y rheini mewn perygl neu ar y cyrion a’r rheini sydd lleiaf tebygol o gael eu clywed.

“Gall pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot gyflawni unrhyw beth, hyd yn oed yng nghanol pandemig. Rwy wirioneddol yn credu os gall cenedlaethau weithio gyda’i gilydd, gwrando ar ei gilydd a gofalu am ei gilydd, byddwn yn parhau i adennill ein hyder a datblygu ein gwydnwch yn wyneb beth bynnag sy’n ein hwynebu.”

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, a roddodd araith yn y seremoni rithwir,

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi Erin yn ystod ei blwyddyn yn y rôl a’i helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl ifanc.”

“Ein blaenoriaeth fwyaf fel cyngor yw rhoi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i bob plentyn a pherson ifanc. Mae cynnwys pobl ifanc mewn bywyd dinesig mewn ffordd ystyrlon yn gam pwysig arall i sicrhau ein bod yn parchu, yn cefnogi ac yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc.”

Cafodd Bethan Nicholas-Thomas, y Dirprwy Faer Ieuenctid newydd, ei hurddo hefyd. Mae’r disgybl o Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn aelod o Gyngor Ieuenctid Prydain a’r Grŵp Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid sy’n ymgyrchu i wneud newidiadau dros gael planed iachach.

Meddai’r Cyng. Scott Jones, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Castell-nedd Port Talbot: “Hoffwn longyfarch Erin a Bethan ar gael eu dewis gan y Cyngor Ieuenctid i ddod yn Faer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n clywed barn, syniadau a lleisiau’r holl blant a phobl ifanc ar draws gwaith y cyngor.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi Erin ym mhopeth y mae hi’n ei wneud yn rhithwir, drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn ei gwaith gyda’r Cyngor Ieuenctid.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle