Ar Ă´l bod yn sâl iawn ar Ă´l iâw pendics fyrstio, penderfynodd Sara Hicks godi arian ar gyfer y GIG lleol, i ddweud diolch i’r staff yn Ysbyty Glangwili.
Gofynnodd Sara, 51, rheolwr swyddfa, sy’n byw yn Saundersfoot, i ffrindiau a theulu roi arian yn lle prynu blodau, gan ddweud bod ei bywyd yn ddyledus i’r GIG.
âDeialais 999 yn yr oriau mân mewn poen dirdynnol,â meddai Sara. âCyrhaeddodd parafeddygon yn fuan gan fy nghludo i Ysbyty Glangwili, a buârn rhaid stopio i roi rhywfaint o morffin i mi, gan nad oeddwn i wir yn ymdopiân dda ââr tyllau yn y ffordd!
âCefais ofal gan dĂŽm o nyrsys a meddygon ifanc a oedd i gyd mor garedig a thosturiol a cefais lawdriniaeth y prynhawn hwnnw, er ei bod yn ddydd Sul.
âRoeddwn i mewn am oddeutu wythnos ac wedi profi ansawdd gofal heb ei ail, ac yn ystod cyfnod o heriau COVID. Roedd y nyrsys a’r meddygon i gyd yn anhygoel.
âCefnogwch eich GIG. Fe wnaethant achub fy mywyd a byddant yn parhau i achub llawer mwy bob dydd. â
Gallwch gyfrannu at ymgyrch Sara yma: www.gofundme.com/f/better-than-a-bunch-of-flowers-thank-you-nhs
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: âHoffem ddiolch i Sara, am ei ymdrech codi arian, aâi geiriau aâi chefnogaeth garedig. Mae’n dda clywed ei bod hi’n gwella.
âMae codwyr arian fel Sara yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
âOs hoffai pobl gyfrannu at Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallant wneud hynny yma: https://www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle