Dywed cynghorydd ariannol ei fod yn teimlo’n ffodus i fod yn fyw

0
469

Mae’r cynghorydd ariannol Martin Lewis yn teimlo ei fod yn ffodus i fod yn fyw ar ôl treulio wyth wythnos mewn gofal dwys a phedwar mis yn cael adferiad yn yr ysbyty.

Felly, mae wedi bod yn codi arian i’r GIG lleol i ddweud diolch am y gofal gwych a gafodd.

Rhuthrwyd Martin, 51, o Benfro, i ofal dwys yn Ysbyty Glangwili gyda haint ac, ar ôl pum llawdriniaeth, dechreuodd wella o’r diwedd.

Roedd hyn yn golygu treulio pedwar mis yn Ysbyty De Sir Benfro, fel claf adsefydlu ar ward Sunderland.

Ar ôl dod adref, roedd Martin eisiau dweud diolch i staff y GIG a gofynnodd i ffrindiau am roddion yn lle anrhegion pen-blwydd eleni, gan godi £230 ar gyfer ward Sunderland.

Meddai Martin: “Cafodd fy salwch ei achosi gan gilddant heintiedig, o bob peth.

“Byddaf yn ddiolchgar yn dragwyddol i’r staff yn Uned Gofal Dwys yn Glangwili a’r staff yn ward Sunderland. Y glanhawyr a’r cynorthwywyr arlwyo, ddioddefodd fy nghwyno bob dydd; y cynorthwywyr gofal iechyd; y nyrsys; y meddygon; y ffisiotherapyddion; pob unigolyn yn cymryd rhan.

“A diolch yn fawr i’r gyrwyr ambiwlans a’m cludodd i ac o dialysis gyda’r fath ofal a hiwmor yn ystod yr amser erchyll hwn.”

“Rwy’n berson ystyfnig ac nid wyf yn rhoi’r gorau iddi yn hawdd,” ychwanegodd. “Ond allwn i ddim bod wedi llwyddo heb y gefnogaeth wych gan fy nheulu arbennig yn enwedig fy rhieni, Malcolm a Rose Lewis, a fy mhlant, Craig a Lana.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn falch o glywed bod Martin adref o’r ysbyty ac yn gwella.

“Rydym yn ddiolchgar am ei gefnogaeth a’i godi arian. Diolch i godwyr arian fel Martin, rydym yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a staff y GIG.

Os hoffai unrhyw un godi arian neu gyfrannu gallant wneud hynny yma: www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle