Hwb ariannol i gydweithrediad ymchwil i astudio gofal llygaid yn y gymuned

0
530

Mae prosiect newydd a sefydlwyd i astudio’r ffordd orau o ofalu am gleifion â chyflyrau llygaid hirdymor yn y gymuned wedi sicrhau grant ymchwil sylweddol. 

Mae Dr Pippa Anderson a Dr Mari Jones, o Ganolfan Economeg Iechyd Prifysgol Abertawe, yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sydd newydd gael grant Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd gan sefydliad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Mae’r cydweithrediad rhwng proffesiynau yn ymchwilio i ffyrdd o reoli a monitro cyflyrau cronig sy’n peryglu’r golwg yn y gymuned.  

Meddai Dr Anderson, pennaeth y Ganolfan Economeg Iechyd: “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llwyth gwaith gwasanaethau llygaid ysbytai yn y DU wedi parhau i gynyddu y tu hwnt i allu’r gweithlu sydd ar gael. Ers 2017, mae gwasanaethau offthalmoleg wedi ymdrin â mwy o gyfnodau gofal cleifion allanol nag unrhyw arbenigedd arall yn y GIG. 

“O ganlyniad i hynny, mae nifer o ddulliau gweithredu newydd wedi cael eu datblygu ledled y DU. Yma yng Nghymru, rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar wella sgiliau optometreg gofal sylfaenol.” 

Mae optometryddion yn weithwyr gofal llygaid proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau archwilio llygaid mewn ysbytai ac, yn fwy cyffredin, yn y gymuned. Mae rhagor o hyfforddiant a chymwysterau wedi rhoi cyfle iddynt ddechrau darparu gwasanaethau yn y gymuned a fyddai wedi cael eu darparu mewn ysbyty yn y gorffennol. 

Fodd bynnag, dywedodd Dr Anderson fod y gwasanaethau a ddarperir yn amrywio yn yr ardal ac un rheswm dros hynny yw prinder y dystiolaeth o safon i gadarnhau pa ddull gweithredu sydd orau. 

Felly, mae grŵp H2C Co-Lab Cymru (Cydweithrediad Ysbyty i Gymuned Cymru) wedi datblygu’r prosiect i wella’r broses o lywio’r penderfyniadau a wneir gan fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru. 

Arweinydd y prosiect, sy’n cynnwys cynrychiolwyr gofal llygaid sylfaenol ac eilaidd, yw’r Athro Barbara Ryan, optometrydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd.  

Ar ben cyfraniad Abertawe, mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru hefyd wedi rhoi cymorth academaidd. Mae partneriaid cleifion megis Sight Cymru, y Gymdeithas Clefydau Macwlaidd (Macular Society), y Gymdeithas Glawcoma Ryngwladol a Chyngor Cymru i’r Deillion ymysg y cydweithredwyr eraill. 

Ychwanega Dr Anderson: “Ein nod yw pennu gwerth optometryddion cymunedol wrth reoli glawcoma a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint, sef cyflyrau llygaid cyffredin sy’n peryglu’r golwg. 

“Yn ogystal ag effaith economaidd, bydd gwerth yn y cyd-destun hwn yn ymwneud â rheoli cleifion yn gywir, yn y man cywir ar yr adeg gywir.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle