Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno gorchuddion wyneb arloesol er mwyn hybu cynhwysiant ar ein rhwydwaith

0
350

Mae gweithwyr rheng flaen ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru yn cael gorchuddion wyneb newydd ac arloesol sydd â ffenest dryloyw, er mwyn i gwsmeriaid allu gweld beth maen nhw’n ddweud.

Mae’r ddyfais newydd yn dangos ymrwymiad TrC i ddelio â phryderon gan y sectorau elusennol a chymunedol am y ffaith fod gorchuddion wyneb yn achosi rhwystr i gyfathrebu.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi archebu 2,000 o’r gorchuddion wyneb. Maen nhw’n cael eu dosbarthu i gydweithwyr yn y gorsafoedd ac i griwiau ar y trenau.

Cafodd y ddyfais ei datblygu gan Trevor Palmer, sy’n aelod o banel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru ac sy’n rhedeg cwmni yng Nghasnewydd yn cynhyrchu mygydau i’r GIG, sef 100 Services Limited.

Dywedodd Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru fod nifer o elusennau a grwpiau cymunedol eraill wedi pwysleisio pa mor bwysig yw arwyddion gweledol er mwyn cyfathrebu’n effeithiol.

Dywedodd Dr Gravelle:

“Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw gwisgo gorchudd wyneb ar hyn o bryd, ond hefyd, mae llawer o’n cwsmeriaid yn colli eu clyw, yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dibynnu’n gyffredinol ar arwyddion gweledol wrth deithio gyda ni.

“Felly pan wnaeth Trevor o’n panel Hygyrchedd a Chynhwysiant awgrymu gorchudd wyneb â ffenest, fe wnaethon ni fanteisio ar y cyfle i’w ddatblygu.

“Mae’r dyluniad wedi ennyn cefnogaeth ein panel, ac rydyn ni’n falch o’i gyflwyno i’n timau rheng flaen.”

Mae’r gorchudd wyneb â ffenest, a ddatblygwyd gan GL 100 services, yn rhoi manteision clir i’n staff wrth ryngweithio â phob cymuned, nid yn unig y gymuned Anabl / Byddar.

Mae’r mwgwd yn cael ei gynhyrchu yng Nghasnewydd, mae’n delio â materion y Ddeddf Cydraddoldeb ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, ac mae’n cydymffurfio ag ISO9001.

Mae Network Rail, y Grŵp Cyflawni – Rheilffyrdd, a’r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd wedi mynegi ddiddordeb yn y cynnyrch hefyd, ac maent yn eu prynu ar gyfer eu staff yn genedlaethol.

Dywedodd Trevor Palmer, aelod o’r panel Hygyrchedd a Chynhwysiant:

“Mae gwisgo gorchudd wyneb yn arf pwysig yn y frwydr yn erbyn Covid 19, ond fel y gwyddom dydy hi ddim yn hawdd cyfathrebu drwyddyn nhw. Dyna pam wnes i ddechrau gwneud y masg wyneb â ffenest, sy’n dangos mynegiant wyneb person ac yn gymorth i ddarllen gwefusau.

“Felly llwyddiant a phleser pur yw cael darparu’r masgiau wyneb â ffenest a helpu i gadw staff rheng flaen y GIG, a staff rheng flaen eraill, yn ddiogel.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle