“Cwestiynau difrifol yn parhau” ar gyflwyno brechlynnau rhybuddia Plaid Cymru wrth i raglen yr ail frechiad ddechrau yng Nghymru

0
311
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Mae cwestiynau difrifol yn parhau o ran cyflwyno brechlynnau yng Nghymru mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Mae cyflwyno’r ail frechlyn Covid (Oxford-AstraZeneca) i fod i ddechrau yng Nghymru heddiw.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd Rhun ap Iorwerth AS bod Cymru wedi bod y tu ôl i “bob gwlad arall yn y DU” o ran y niferoedd gafodd eu brechu a rhybuddiodd Lywodraeth Cymru yn erbyn “loteri cod post”.

Galwodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid hefyd am “eglurder” ar y dystiolaeth ar gyfer newid y protocolau ar gyfer darparu brechlynnau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod y penderfyniad i ohirio’r ail ddos am hyd at 12 wythnos gyda’r ddau frechlyn wedi achosi “pryder gwirioneddol” ymysg meddygon sy’n ofni y gallai danseilio ei effeithiolrwydd yn ddramatig.

Wrth ymateb i ddechrau cyflwyno’r ail frechlyn Covid yng Nghymru heddiw, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd Rhun ap Iorwerth AS,

“Rwy’n falch bod gennym ail frechlyn yn cael ei gyflwyno erbyn hyn, ond mae cwestiynau difrifol yn parhau ynglŷn â’r cynlluniau i’w gyflwyno.

 

“Mae Cymru wedi bod y tu ôl i bob gwlad arall yn y DU o ran y niferoedd sy’n cael eu brechu, ac mae llawer gormod o amrywiaeth o ranbarth i ranbarth – nid ddylai Llywodraeth Cymru ganiatáu loteri cod post.

 

“Ac mae’n rhaid i ni gael eglurder ynglŷn â’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid y protocolau ar gyfer darparu brechlynnau – mae’r penderfyniad i ohirio’r ail ddos am hyd at 12 wythnos gyda’r ddau frechlyn wedi achosi pryder gwirioneddol ymhlith llawer o feddygon sy’n ofni y gallai danseilio ei effeithiolrwydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle