Peiriant ECG newydd ar gyfer SCBU, Ysbyty Glangwili

0
866

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu peiriant ECG cludadwy ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae’r peiriant yn cael ei ddefnyddio i berfformio ECG ar fabanod sy’n cael eu geni’n gynamserol a’r rhai sydd angen gofal ychwanegol.

Mae peiriant ECG yn cofnodi gweithgaredd trydanol y galon ac yn diagnosio ac yn monitro triniaeth cyflyrau cardiaidd.

Dywedodd Karen Jones, Uwch Nyrs Babanod cynamserol, fod yr uned yn hynod ddiolchgar am y rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda sydd wedi gwneud prynu peiriant ECG yn bosibl.

“Rydyn ni’n ymgymryd ag electrocardiogramau yn rheolaidd ar fabanod cynamserol a newydd-anedig sy’n cael eu derbyn i’r uned,” meddai.

“Gall y peiriant gyfathrebu’n ddi-wifr ac mae’n storio canlyniadau ECG yn electronig, gan roi mynediad gwell i ddata ar gyfer timau meddygol. Mae’r darlleniadau cyflym, cywir yn golygu y gellir llunio cynlluniau gofal cynnar. ”

Mae rhoddion i elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu babanod yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Os hoffech roi, gallwch wneud hynny yma:www.justgiving.com/hywelddahealthcharities


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle