Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu monitorau calon a pheiriannau pwysedd gwaed i’w defnyddio gan gleifion cardioleg ledled ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.
Mae deg monitor cyfradd curiad y galon a rhythm ar gael i gleifion eu defnyddio yn eu cartrefi eu hunain, fel y gellir cynnal asesiadau o bell.
Trosglwyddir darlleniadau i un o dair nyrs methiant y galon arbenigol, gan alluogi’r tîm i asesu a oes angen ymchwilio ymhellach.
Mae prynu 75 o beiriannau pwysedd gwaed awtomataidd i gleifion eu defnyddio gartref hefyd yn galluogi cynnal clinigau rhithwir, gan ganiatáu i’r tîm nyrsio gofnodi arsylwadau hanfodol i helpu i atal derbyniadau i’r ysbyty.
Dywedodd Helen Bowler, Nyrs Arbenigol Methiant y Galon: “Mae’r monitorau calon a’r peiriannau pwysedd gwaed wedi trawsnewid yr hyn y gallwn ei wneud. Maent yn ased aruthrol ac rydym yn ddiolchgar iawn am roddion sydd wedi gwneud y pryniannau’n bosibl.
“Rydyn ni wedi bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o weithio i sicrhau bod anghenion ein cleifion yn cael eu diwallu oherwydd y sefyllfa bresennol.”
Mae cloriannau pwyso a chloriannau siarad hefyd wedi’u prynu i’w defnyddio gan y gwasanaeth.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae rhoddion gan ein cymunedau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion y galon ar draws ein tair sir.
“Diolch i haelioni pobl leol, rydym wedi gallu prynu monitorau calon a pheiriannau pwysedd gwaed i’w defnyddio gartref. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth. ”
Os hoffech roi rhodd, gallwch wneud hynny yma:www.justgiving.com/hywelddahealthcharities
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle