Cadw’n egnïol yn eich cartref

0
362

Gyda’r cyfnod clo yng Nghymru yn rhoi mwy o bwyslais byth ar ynysigrwydd a llesiant pobl hŷn, mae Elusen Goldies Cymru yn cynyddu ei chynnwys ar-lein i gynnwys ymarferion ysgafn i’w gwneud gartref.

 

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

 

“Mae cadw’n egnïol yn wirioneddol bwysig ar gyfer llesiant pobl hŷn ac yn eu helpu i aros yn iach ac annibynnol. Ond mae’r pandemig wedi golygu y cafodd llawer o’r cyfleoedd arferol i bobl hŷn gadw’n egnïol eu colli.

 

“Felly rwy’n wirioneddol falch bod Goldies Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda GIG Cymru i gyflwyno cyfres o sesiynau ymarfer ysgafn seiliedig mewn cadair fydd yn helpu pobl hŷn i symud yn ddiogel gartref drwy gydol wythnosau’r Gaeaf sydd o’n blaenau.”

 

Pan gafodd Elusen Goldies Cymru ei gorfodi oherwydd Covid i ganslo eu holl sesiynau yn ystod y dydd yn Ne Cymru fis Mawrth diwethaf, fe wnaethant gyflwyno sesiynau ar-lein drwy Facebook a YouTube. Fe wnaeth y rhain wedyn ddatblygu i ddod yn rhai dwywaith yr wythnos gyda sesiynau dydd Mawrth yn cael eu harwain gan Rachel Parry a sesiynau dydd Iau gan Cheryl Davies. Mae Rachel a Cheryl ill dwy wedi gweithio i’r Elusen am nifer o flynyddoedd yn cynnal sesiynau rheolaidd yn ystod y dydd.

 

Gyda sesiynau dydd Iau Cheryl yn seiliedig ar fformat poblogaidd Goldies o ganu gyda hoff ganeuon poblogaidd a geiriau ar y sgrin, mae’r sesiynau gan Rachel am 11am ar ddyddiau Mawrth wedi datblygu i fod â mwy o fformat cylchgrawn.

 

Dywedodd Rachel:

“Cawsom ymateb gwych gan ein pobl hŷn a rydyn ni’n awr yn ceisio rhoi sylw i wahanol bwnc bod dydd Mawrth.

 

“Mae’r ymarferion cadair yn annog pobl i ymestyn yn ogystal â chanu a gobeithiwn ddatblygu’r rhain yn yr wythnosau i ddod.

 

“Bu ein sesiynau Bollywood yn boblogaidd tu hwnt a’r wythnos nesaf bydd Sarita Sood unwaith eto yn dysgu rhai symudiadau dawns Bollywood syml a hyfryd a gaiff eu rhoi drwy fideo yn ein sesiynau dydd Mawrth.

 

“Mae dawnsio llinell bob amser wedi bod yn rhan boblogaidd iawn o sesiynau Goldies a byddwn yn cyflwyno mwy o’r rhain yn y dyfodol yn defnyddio fideos a gafodd eu gwneud cyn y cyfnod clo yn ein sesiwn Goldies wythnosol poblogaidd iawn yn Rhydypennau, Caerdydd, dan arweiniad Sue Thomas.

 

Mae’n rhwydd cael mynediad i www.goldieslive.com ac mae hefyd ar gael am ddim ar YouTube a drwy Facebook.

 

Ychwanegodd Grenville Jones, Sefydlydd Goldies:

 

“Pan gawsom ein gorfodi i ganslo ein sesiynau Goldies byw y llynedd, roedd hyn yn golygu na allai ein pobl hŷn ddod atom ni i fwynhau sesiwn yn eu hystafell gymunedol, neuadd eglwys neu lyfrgell. Gan na fedrent nhw ddod atom ni, fe aethom â Goldies atyn nhw drwy’r rhyngrwyd i’w cartrefi a dechreuodd canu soffa!

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleM4 Fatal RTC:Family tribute issued
Next articleStaying active in your home
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.