Bydd y drysau rhithiol yn agored bob awr o’r dydd rhwng Chwefror 1 a 5 pan fydd detholiad o siaradwyr ysbrydoledig o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt ar gael ar-lein ar gyfer Cynhadledd Ffermio Cymru 2021, sef y gyntaf erioed i fynd yn ddigidol.
“Disgwyliwch gael eich cymell ar lefel bersonol a busnes,” yw’r neges gan Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.
Wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer 2021 ac wrth i gytundeb diweddar Brexit ddechrau dod yn weithredol, mae Mrs. Williams yn optimistaidd bod Cyswllt Ffermio wedi llunio rhaglen unigryw a fydd yn denu nid yn unig selogion y gynhadledd ond nifer o ymwelwyr newydd hefyd.
“Gallwch ymuno â chyfres o gyflwyniadau 20 munud ar-lein fydd yn ‘rhy dda i’w colli’ ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur unrhyw bryd sy’n gyfleus i chi, heb adael eich cartref neu’ch swyddfa.
“Ein haddewid yw y bydd pob ‘digwyddiad’ ar-lein yn eich ysbrydoli ac yn rhoi gwybodaeth i chi ar amrywiaeth eang o themâu a thopigau.
“Ymysg yr amrywiol themâu eleni bydd y pynciau hyn: newid meddylfryd, gofyn a ddylai ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu, a fydd gan gwsmeriaid farn wahanol ynglŷn â beth i’w brynu a’i fwyta a pham fod ffermwyr cenhedlaeth gyntaf yn wahanol brîd yn aml iawn,” meddai Mrs Williams.
Bydd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru, yn diolch i’r diwydiant am ymateb i heriau 2020, a oedd yn flwyddyn wirioneddol ddigynsail, a bydd yn esbonio ei gweledigaeth ynglŷn â chreu sector amaeth gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dechreuodd cyn-weithredwr y lluoedd arbennig Ollie Ollerton ‘ar genhadaeth ddiamod’ i briodi ei ddyweddi ar ei ben-blwydd yn 50 oed yn Gretna Green ar Ragfyr 27, ‘oherwydd bod Covid wedi rhoi stop ar y briodas ar thema James Bond a gynlluniwyd gennym’.
Aeth y cyn-aelod o’r lluoedd arfog arbenigol, Ollie Ollerton ‘ar genhadaeth ddiamod’ i briodi ei ddyweddi ar ei ben-blwydd yn 50 oed yn Gretna Green ar Ragfyr 27, ‘oherwydd bod Covid wedi rhoi stop ar y briodas ar thema James Bond a gynlluniwyd gennym’. Mae wedi treulio mwy na 13 mlynedd yn gwneud gwaith hynod gyfrinachol yn rhai o leoliadau mwyaf peryglus ac anghysbell y byd. Mae’n dweud ei fod wedi dysgu digon ar hyd ei fywyd proffesiynol Bondaidd i newid eich ffordd o feddwl, eich ffordd o deimlo a’ch ffordd o berfformio. Mae’n honiad mawr – ymunwch ag ef i weld a yw’n gywir.
Bydd y gwrw marchnata a dadansoddwr manwerthu, Sophie Colquhoun, yn rhannu ei sylwadau am gyfalafu ar werth ‘Cymreictod’ ac am beth y bydd siopwyr y dyfodol yn chwilio. A fydd ei gwybodaeth a’i phrofiad yn rhoi’r fantais gystadleuol i chi yr ydych yn chwilio amdani?
Bydd Anne Villemoes yn gofyn a ydym yn ‘medi ein tyrchod neu’n lladd moch’! Mae Anne, sy’n arbenigwraig ryngwladol mewn rheoli enw da yn gwneud i chi holi a ydych yn eich ystyried eich hun yn ffermwr neu’n gynhyrchydd bwyd, a bydd yn esbonio pam mae enw da a’r ffordd mae pobl yn eich gweld chi’n gallu esgyn neu dorri busnes.
Bydd y gwyddonydd Athro Alice Stanton, yn trafod data a gyhoeddwyd yn ddiweddar am ddiet iach, gan gynnwys rôl bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid. P’un a ydych yn cytuno neu’n anghytuno, yn bwyta cig ai peidio, os ydych yn ffermwr neu’n gynhyrchydd bwyd dyma eich cyfle i ddiweddaru eich gwybodaeth am y pwnc dadleuol hwn.
“Credwn ein bod wedi creu rhaglen amrywiol iawn fydd â rhywbeth i’w gynnig i bawb, pa bynnag sector yr ydych yn gweithredu ynddo, felly ewch i’n gwefan i bori drwy raglen lawn y gynhadledd, canfod rhagor am ein siaradwyr i gyd a llunio amserlen a fydd yn gweithio i chi,” meddai Mrs. Williams.
Bydd angen i bob unigolyn gofrestru, ac wedyn gallent ‘diwnio i mewn’ unrhyw bryd rhwng 1 a 5 Chwefror, ar yr amser sy’n fwyaf cyfleus iddyn nhw. Ewch i wefan Cyswllt Ffermio ar www.llyw.cymru/cyswlltffermio i agor ffurflen gofrestru Cynhadledd Ffermio Cymru. Dim ond unwaith y bydd raid i chi gofrestru i dderbyn dolen er mwyn mynd i mewn i bob sesiwn o’r gynhadledd. Os byddwch angen cymorth, neu os dymunwch archebu DVD o ddigwyddiadau’r wythnos, ffoniwch Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle