TUC Cymru: Mae un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru yn ofni colli eu swydd o fewn chwe mis

0
317
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Mae mwy nag un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru yn ofni y byddan nhw’n colli eu swydd yn y chwe mis nesaf, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos effaith Covid-19 ar weithwyr ledled y wlad ac yn dilyn ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus sy’n dangos bod Cymru wedi profi’r cynnydd mwyaf sydyn mewn diweithdra mewn unrhyw ranbarth o’r DU.

Dywedodd 27% o’r gweithwyr a holwyd eu bod yn poeni am gael eu diswyddo yn y dyfodol agos – tra bod bron i un o bob tri (32%) yn dweud eu bod yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu rhwng nawr a’r haf.

Canfu arolwg YouGov, a geisiodd farn gan fwy na 1,000 o weithwyr ledled Cymru, hefyd fod 43% yn ystyried diweithdra a’r bygythiad i swyddi fel un o’r heriau mwyaf taer sy’n wynebu’r wlad.

Cefnogodd gweithwyr ymestyniad y cynllun ffyrlo yn ogystal â galwadau am fwy o gymorth ariannol i weithwyr isafswm cyflog ar sydd ffyrlo. Nodwyd cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chreu swyddi drwy fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd fel meysydd blaenoriaeth i’r llywodraeth.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’n ddealladwy bod gweithwyr yn bryderus am eu dyfodol. Mae’r argyfwng Covid wedi amlygu’r gwendid a’r anghydraddoldebau yn ein heconomi ac mewn marchnad lafur sydd wedi dibynnu’n ormodol ar waith ansicr ac ansefydlog.

“Mae angen i ni weld rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn seilwaith a sector cyhoeddus Cymru. Mae ymchwil TUC Cymru wedi dangos y cyfleoedd i greu degau o filoedd o swyddi drwy ariannu trawsnewidiad cyfiawn i economi wyrddach a thecach. Mae angen i lywodraethau – yng Nghymru a San Steffan – weithredu i ddiogelu bywoliaethau ac i gynnig diogelwch i weithwyr Cymru”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle