Gwenyn mêl yn amlygu’r modd y mae ein tirwedd flodau wedi newid dros y 65 mlynedd diwethaf – a’r planhigyn goresgynnol dadleuol y maent bellach yn ei addoli

0
409

Efallai bod haneswyr gwenyn mêl yn ymddangos fel petaent yn rhyw ddychmygu pethau, ond mae’r peillwyr bach hyn wedi bod yn helpu ymchwilwyr o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i olrhain sut y mae caeau, gwrychoedd, mannau gwyllt a gerddi y Deyrnas Unedig wedi newid ers yr 1950au.

Gan ddefnyddio technegau cod bar DNA o’r radd flaenaf, aeth gwyddonwyr yn yr Ardd Fotaneg ati i nodi pa blanhigion modern yr oedd gwenyn mêl yn ymweld â nhw amlaf, a hynny trwy edrych ar y gronynnau paill a oedd yn cael eu dal yn y mêl. Gellir gweld yr erthygl mynediad agored lawn yma ar ‘Communications Biology’.

Wedyn, bu iddynt gymharu hyn ag arolwg yn 1952 o blanhigion mêl lle roedd microsgop wedi cael ei ddefnyddio mewn modd hynod o ofalus i nodi gronynnau paill mewn mêl a anfonwyd o gychod gwenyn ledled y wlad.

Roedd y gwahaniaethau’n eglur. Meillion gwyn oedd y planhigyn pwysicaf ar gyfer gwenyn mêl ond, gyda llai o dir pori heddiw a mwy o ddefnydd o chwynladdwyr a gwrtaith anorganig mewn amaethyddiaeth, mae’r planhigyn hwn wedi disgyn i’r ail safle. Nawr, mae pryfed yn ymweld â llawer mwy o’r canlynol:

  • eu ffefryn modern, mieri
  • rêp had olew, planhigyn y mae iddo dro yn ei gynffon
  • y planhigyn goresgynnol iawn, Jac y neidiwr

Hefyd yn bwysig oedd llwyni a choed sy’n blodeuo yn y gwanwyn, gan gynnwys y ddraenen wen (Cratageus monogyna), afal (rhywogaethau Malus), rhywogaethau Cotoneaster, sycamorwydd a masarn (rhywogaethau Acer), ceirios ac eirin (rhywogaethau Prunus), a, thuag at ddiwedd y tymor, grug (Calluna vulgaris).

Dywedodd Dr Natasha de Vere, Pennaeth Cadwraeth ac Ymchwil yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: ”Mae’r 65 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid dwys yn nhirwedd y Deyrnas Unedig. Arweiniodd ffermio dwys ar ôl yr Ail Ryfel Byd at ddirywiad mewn glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau a thir pori parhaol, a dinistriwyd gwrychoedd a choetiroedd er mwyn cynyddu maint caeau a thyfu cnydau newydd. Mae dosbarthiad a helaethrwydd blodau gwyllt y Deyrnas Unedig wedi newid, gyda rhai rhywogaethau’n dirywio wrth i blanhigion newydd gael eu cyflwyno.

“Mae haneswyr naturiol, gwyddonwyr ac asiantaethau’r llywodraeth wedi gwneud cofnodion manwl yn ystod y cyfnod hwn, ond nid nhw yw’r unig dystion i’r byd cyfnewidiol hwn. Mae gwenyn mêl hefyd yn teithio trwy’r tirweddau hyn, gan hedfan trwy gaeau a choetiroedd a dros wrychoedd a chnydau wrth iddynt chwilio am neithdar a phaill i’w cludo i’w cychod gwenyn.”

Yr ymchwil newydd:

Yn rhan o’i hymchwil PhD gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Bangor, aeth Dr Laura Jones ati yn 2017 i ailadrodd arolwg a gynhaliwyd gan A.S.C. Deans yn 1952. Dadansoddodd 441 o samplau o fêl a anfonwyd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Y tro hwn, yn lle defnyddio microsgop, nodwyd y paill trwy ddefnyddio cod bar DNA planhigion, gwaith y mae gan yr Ardd Fotaneg enw da amdano yn rhyngwladol.

Meillion gwyn yn 1952, y feillionen wen (Trifolium repens) oedd y planhigyn pwysicaf ar gyfer gwenyn mêl. Yn yr ymchwil newydd, meillion gwyn oedd yr ail blanhigyn pwysicaf o hyd, ond gwelwyd gostyngiad sylweddol yn ei bresenoldeb yn y mêl. Yn 1952, roedd meillion gwyn i’w cael yn 93% o’r samplau mêl, ac roedd yn brif blanhigyn mêl yn 74% o’r samplau; fodd bynnag, erbyn 2017 dim ond yn 62% o’r samplau yr oedd i’w gael, a dim ond yn 31% ohonynt yr oedd yn brif ffynhonnell – arwydd bod yna lawer llai o feillion gwyn yn ein tirwedd fodern.

Mae Arolwg Cefn Gwlad y Deyrnas Unedig yn dangos bod meillion gwyn wedi gostwng 13% yn y dirwedd rhwng 1978 a 2007. Hwn oedd y planhigyn trechaf mewn tir pori parhaol ar un adeg, ac roedd hefyd yn cael ei gynnwys mewn gwyndynnydd glaswellt yn aml, rhwng 1978 a 2007 i ddarparu ffynhonnell o brotein ar gyfer da byw. Arweiniodd ffermio dwys at ostyngiad yn helaethrwydd y tir pori parhaol, ac roedd defnydd cynyddol o wrtaith nitrogen anorganig yn golygu bod meillion yn llai tebygol o gael eu hau mewn gwyndynnydd glaswellt. Roedd ailhadu heb feillion yn ei gwneud yn haws rheoli dail tafol ac ysgall â chwynladdwr sbectrwm eang, a oedd yn lladd yr holl blanhigion nad oeddent yn laswelltau. Lle roedd meillion gwyn yn dal i gael eu cynnwys mewn gwyndynnydd, roedd torri’r glaswellt yn llawer mwy rheolaidd ar gyfer silwair yn golygu na fyddai’r meillion yn debygol o gael blodeuo.

Mieri o ganlyniad i’r gostyngiad yn y ffynhonnell neithdar hynod o bwysig hon, roedd yn rhaid i wenyn mêl ddod o hyd i gyflenwadau amgen o neithdar a phaill. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod gwenyn mêl wedi cynyddu swm y mieri, Rubus fruticosus, yn eu deiet. Mae meillion gwyn a mieri yn blodeuo tua’r un adeg, a, rhwng 1952 a 2017, cynyddodd mieri’n sylweddol i fod yn brif blanhigyn gwenyn mêl. Yn 1952, roedd Rubus i’w gael yn 58% o’r samplau mêl, ond dim ond ym 5% ohonynt yr oedd yn brif ffynhonnell. Yn 2017, roedd mieri yn 73% o’r samplau mêl ac roedd yn brif blanhigyn mêl yn 36% o’r rhain.

Rêp had olew cafodd ei dyfu gyntaf ddiwedd yr 1960au. Erbyn 1988, roedd 279,030 ha o rêp had olew (Brassica napus) yn cael eu cynhyrchu, a chynyddodd hyn i 332,000 ha yn 2000. Mae’r caeau melyn llachar bellach yn olygfa gyffredin yn y gwanwyn. Yn 1952, roedd y genws Brassica, y mae rêp had olew yn perthyn iddo, yn brif blanhigyn yn 2% o’r samplau mêl yn unig, ond erbyn 2017 roedd hyn wedi cynyddu i 21%. Canfuwyd bod presenoldeb paill

Brassica yn y mêl yn sylweddol fwy ym mêl cychod gwenyn a oedd wedi’u lleoli bellter o 2 km neu lai o gnydau rêp had olew. Mae gwenyn mêl yn gwneud defnydd llawn o’r neithdar a’r paill o rêp had olew, ac mae mêl rêp had olew sydd o un tarddiad bellach ar gael yn eang. Mae’r cynnwys glwcos yn uchel ynddo, sy’n golygu ei fod yn gronynnu’n gyflym iawn i roi mêl gwyn solet ac iddo flas ysgafn. Oherwydd ei fod yn gronynnu’n gyflym, gall hyn arwain at broblemau i’r gwenynwr; os na fydd yn mynd ati’n gyflym i dynnu’r mêl o’r crwybr, gall y mêl setio’n galed nes ei fod yn amhosibl ei dynnu.

Ond, mae yna dro yng nghynffon y planhigyn newydd hwn gan fod hadau rêp had olew yn aml yn cael eu trin â phryfladdwyr neonicotinoid, sy’n niweidio gwenyn mêl. Ar hyn o bryd, mae’r pryfladdwyr neonicotinoid hyn yn cael eu gwahardd yn y Deyrnas Unedig, a gobeithiwn y bydd y gwaharddiad hwn yn parhau.

Jac y neidiwr – wrth iddynt chwilio am neithdar a phaill, mae gwenyn mêl hefyd wedi dod o hyd i rywogaeth oresgynnol sy’n dod i’r amlwg. Cyflwynwyd Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) gyntaf i’r Deyrnas Unedig yn 1839. Roedd y ffaith ei fod yn tyfu’n gyflym i gryn uchder (hyd at 3 m), bod ei flodau, mewn arlliwiau o wyn, pinc a phorffor, yn debyg i degeirianau, a bod ei godennau hadau yn ffrwydro, yn apelio at arddwyr oes Victoria. Cyn pen dim, llwyddodd Jac y neidiwr i ddianc o’r gerddi muriog; ymledodd yn araf i ddechrau, ac yna’n gyflymach o’r 1940au i’r 1960au, gan ymsefydlu’n raddol ar hyd dyfrffyrdd ac ymylon caeau. Yn 1952, roedd lefelau ei bresenoldeb ym mêl y Deyrnas Unedig yn isel, gyda dim ond 3% ohono yn y samplau, ac 1% yn unig lle roedd yn brif blanhigyn.

Erbyn hyn mae Jac y neidiwr yn rhemp ar hyd glannau afonydd ac ymylon ffyrdd. Yn 2017, canfuwyd ei fod ym 15% o’r samplau, a’i fod yn brif ffynhonnell yn 6% ohonynt. Fodd bynnag, mae hyn yn amcangyfrif rhy isel o’i bwysigrwydd gan i’r rhan fwyaf o’r samplau mêl gael eu darparu ym misoedd Gorffennaf ac Awst, a Jac y neidiwr yn tueddu i gael ei ddefnyddio gan wenyn mêl yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bellach, mae Jac y neidiwr yn blanhigyn diwedd tymor pwysig ar gyfer gwenyn mêl gan ei fod yn darparu ffynhonnell doreithiog o neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan nad oes llawer o blanhigion eraill yn eu blodau. Mae’n helpu’r gwenyn i grynhoi eu storfeydd ar gyfer y gaeaf, ac weithiau bydd gwenynwyr yn ei werthu fel mêl lliw gwellt un tarddiad, ac iddo flas blodeuog melys, persawrus. Mae’n hawdd dweud pan fo gwenyn mêl yn chwilota ar Jac y neidiwr gan y byddant yn dychwelyd i’r cwch gwenyn gyda phaill nodweddiadol yn gwyngalchu a gorchuddio eu cyrff; mae hyn wedi arwain at eu galw’n ‘wenyn ysbryd’.

Yn ddi-os, mae Jac y neidiwr yn blanhigyn da ar gyfer gwenyn mêl; fodd bynnag, mae hyn yn fater dadleuol gan fod y rhywogaeth yn un oresgynnol iawn, a restrir o dan Atodiad 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n golygu ei bod yn drosedd plannu neu beri i’r rhywogaeth dyfu yn y gwyllt. Mae’r ffaith ei fod yn blanhigyn sy’n tyfu’n rymus yn golygu ei fod yn cystadlu â phlanhigion brodorol am olau, maethynnau a gofod. Mae’n marw yn y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad, a gall ei goesynnau a’i ddail marw dagu dyfrffyrdd. Mae hyd yn oed ei boblogrwydd ymhlith peillwyr yn medru achosi problemau gan y gall drechu blodau gwyllt brodorol o ran yr hyn y gallant ei ddarparu. Mae hyn yn golygu bod llai o hadau’n cael eu cynhyrchu gan y planhigion brodorol hyn wedyn.

Ychwanegodd Dr de Vere: “Er mwyn darparu digon o fwyd o ansawdd uchel, mae ar wenyn mêl a pheillwyr gwyllt angen ffynonellau toreithiog ac amrywiol o neithdar a phaill yn y dirwedd. Trwy ddeall pa blanhigion yw’r ffynonellau pwysicaf, gallwn ddarparu argymhellion ar ba blanhigion i’w tyfu fel y gall gwenyn mêl a pheillwyr gwyllt ffynnu”.

Mae’r argymhellion o’r ymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • Newidiadau yn lefel y dirwedd i ddarparu mwy o adnoddau blodau. Mae ar y Deyrnas Unedig angen rhagor o wrychoedd llawn blodau, ynghyd ag ymylon mieri a glaswelltiroedd cyfoethog eu blodau gwyllt. Mae cadwraeth yn flaenoriaeth yn achos y dolydd cyfoethog eu rhywogaethau, ond mae’r ardal y mae’r cynefinoedd hyn yn ei gorchuddio yn hynod o ddiflanedig.
  • Er mwyn sicrhau’r cynnydd mwyaf mewn neithdar a phaill, mae newidiadau’n ofynnol yn y cynefin mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig heddiw – sef gwell glaswelltiroedd. Mae blodau gwyllt yn cael eu gwasgu allan i greu glaswelltiroedd lle mae nifer fach o rywogaethau glaswellt, nad ydynt yn cynnwys llawer o flodau i gynnal peillwyr, yn goruchafu. Ond oherwydd maint y cynefin hwn, gallai newidiadau bach yma gynyddu adnoddau neithdar yn sylweddol. Yn achos gwenyn mêl, byddai’n well darparu rhagor o feillion gwyn mewn gwell glaswelltiroedd; i beillwyr eraill, mae blodau gwahanol yn bwysicach.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle