Gyda chyfyngiadau COVID mewn lle, mae codwyr arian yn parhau i chwilio am ffyrdd arloesol i’r cyhoedd gefnogi achosion da, ac mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch o lansio her rithwir hwyliog, eco-gyfeillgar, y gall pawb gymryd rhan ynddi. Mae’n cychwyn ar Ddydd San Ffolant, dydd Sul 14eg Chwefror, o Baris, prif-ddinas y cariadon.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian, Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni bob amser yn edrych ar opsiynau newydd ac amgen i’n cefnogwyr sydd eisiau rhoi yn ôl a dangos eu gwerthfawrogiad o’r GIG – p’run ai i ddiolch i staff am y gofal eithriadol gawsant hwy neu anwyliaid, neu, fel yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd, cydnabyddiaeth gyffredinol am waith eithriadol y GIG trwy’r pandemig Coronafeirws.
“Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan rai o’r syniadau creadigol y mae pobl wedi meddwl amdanyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi ein helusen GIG, o heriau corfforol, i werthu eitemau sydd wedi eu gwneud â llaw, ac ymuno yn ein Diwrnod Siwmper Nadolig. Ond, rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl eisiau ffordd hawdd o wneud eu rhan o gysur eu cartref, felly rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni’n cymryd rhan mewn ras falŵn rithwir eco-gyfeillgar am y tro cyntaf ar Ddydd San Ffolant”
Am ffi cofrestru o £3, dyrennir balŵn rhithwir i’r cyfranogwyr, y gallant ei bersonoli os dymunant, gyda gwobrau’n cael eu dyfarnu yn ôl y pellter y mae’r balŵns yn ei deithio mewn llinell syth o’r lleoliad lansio rhithwir – Tŵr Eiffel ym Mharis.
Bydd y ras yn para wythnos o ganol dydd ddydd Sul 14eg Chwefror gyda gwobrau gan gynnwys £500 o arian parod, iPad a tocynnau llyfrau. Bydd Elusennau Iechyd Hywel Dda hefyd yn dyfarnu gwobrau o dalebau rhodd o £50 a £25 am y balŵns a deithiwyd bellaf i gefnogi eu hachos.
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gall cefnogwyr gofrestru, a gyda phob balŵn rhithwir yn costio pris rhai cardiau Sant Ffolant, mae Tara yn gobeithio y bydd pobl yn cael eu temtio i fynd i ysbryd y digwyddiad a chofrestru mwy nag unwaith.
“Ein thema ar gyfer eleni yw ‘Dangoswch gariad tuag at eich elusen GIG’. Rydyn ni i gyd yn gwybod cymaint mae’r cyhoedd wedi gwerthfawrogi gwaith anhygoel ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rhyfeddol trwy gydol yr argyfwng presennol, a byddai’n wych pe bai pobl yn prynu mwy nag un balŵn, efallai fel anrheg i rywun maen nhw’n ei garu, er cof am rywun maen nhw wedi’i golli, neu dim ond i ddangos eu bod nhw’n poeni am ein GIG ar hyn o bryd. “
Anogir busnesau, clybiau a chymdeithasau i gymryd rhan, gan fynd ben ben a’u gilydd i weld pa falŵn aelod o’r tîm sy’n teithio bellaf
Gallwch gofrestru tan 1130 ar 14eg Chwefror 2021 yn www.ecoracing.co/user/page/1191
Elusennau Iechyd Hywel Dda yw Elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro a’r siroedd sy’n ffinio.
Mae telerau ac amodau llawn y digwyddiad ar gael yn www.ecoracing.co/site/page?view=terms
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle