Darn gan Gadeirydd BIP Hywel Dda: Peidiwch â cholli gobaith – mae’r brechlynnau yma

0
2724
Ms Maria Battle - Chair of Hywel Dda University Health Board

Yn naturiol, mae pobl wedi blino ac yn teimlo’n bryderus ar ôl bron i flwyddyn o fod o dan warchae’r pandemig hwn. Mae’n hawdd colli ffydd ac ymddiriedaeth ar ôl cyfnod mor hir dan glo, yng nghanol gaeaf tywyll a phan fydd y cyfryngau yn gyson yn llawn adroddiadau am y feirws. Mae llawer ohonom yn cwestiynu pryd fydd hyn drosodd? Pryd ydw i’n mynd i gael y brechlyn neu’r ail ddos? Ble fydda i’n ei gael?

Rydym yn ffodus bod tri brechlyn wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU ac mae dau bellach yn cael eu cyflwyno ledled Hywel Dda. Cyrhaeddodd y brechlyn cyntaf, Pfizer, yng Ngorllewin Cymru ar Ragfyr 8fed 2020. Yn yr wythnos gyntaf honno cawsom 975 dos ac roedd yn foment eithaf emosiynol wrth sylweddoli mai dyma ddechrau diwedd yr amser ofnadwy hwn. Oherwydd yr angen i gadw’r brechlyn ar dymheredd mor isel, a’r terfynau amser caeth i’w roi cyn iddo ddifetha, penderfynwyd mai Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin oedd y lleoliad mwyaf addas i ddechrau. Y bobl gyntaf i gael y brechlyn oedd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sy’n peryglu eu bywydau bob diwrnod gwaith. Mae angen i ni hefyd eu cadw mor ddiogel ag y gallwn er mwyn iddynt allu gofalu amdanom i gyd.

Ers hynny mae mwy o frechlynnau Pfizer wedi bod yn cyrraedd bob wythnos sydd wedi galluogi agor canolfannau brechu torfol yn Aberteifi a Hwlffordd gyda chynlluniau ar gyfer canolfannau yn Aberystwyth o fewn yr wythnos nesaf, ac yna Llanelli i ddilyn. I ddechrau, maent yn canolbwyntio ar frechu ein 24,500 aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, staff cartrefi gofal a staff gofal cartref a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach os a phryd y gallwn eu defnyddio ar gyfer grwpiau eraill, wrth i gyflenwadau brechlynnau gynyddu, a byddwn hefyd yn ystyried agor canolfannau brechu torfol eraill os bydd angen.

Cawsom ein cyflenwadau cyfyngedig cyntaf o’r brechlyn Oxford/Astrazeneca ar 2il Ionawr 2021. Yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny, oherwydd Rheolau’r DU, dim ond i’r tri meddygfa a reolir gan y bwrdd iechyd – un yn Sir Benfro a dau yn Sir Gaerfyrddin – y gellid cyflenwi brechlyn Oxford/Astrazeneca. Roedd yn rhaid i’r meddygfeydd eraill gofrestru gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr i gael eu cyflenwadau yn uniongyrchol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cefnogi hyn ac yn rhannu ein cyflenwad ag unrhyw feddygfeydd sydd wedi cael trafferthion yn archebu, fel y dylai pob un o’n 48 meddygfa gael y brechlyn cyn diwedd yr wythnos hon. Golyga hyn bod gennym frechu torfol yn digwydd ar hyd a lled Hywel Dda, a hynny yn agosach at gartrefi pobl ac mewn amgylchedd cyfarwydd. Mae fferyllfeydd cymunedol hefyd yn barod i roi’r brechlyn ac rydym yn gweithio gyda nhw i alluogi hyn pan fo hynny’n bosib ac wrth i’n cyflenwadau gynyddu.

Yn amodol ar gael cyflenwadau, rydym yn anelu at fod wedi cynnig brechlynnau i bob preswylydd ac aelod o staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phob un dros 70 oed neu sy’n agored i niwed yn glinigol yn ardal Hywel Dda erbyn canol mis Chwefror 2021. Ac yna gweddill y grwpiau blaenoriaeth yng Ngham 1, a benderfynwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, erbyn y gwanwyn, a phob oedolyn cymwys yng Ngham 2 erbyn yr hydref *gweler nodiadau i’r golygydd isod

Ymwelais â Chanolfan Brechu Torfol Aberteifi yr wythnos ddiwethaf. Ac fel y dywedodd y nyrs arweiniol wrtha’i, roedd mor hawdd dod o hyd i’r ganolfan gan ddilyn yr arwyddion mawr melyn. Roedd marsialiaid gwirfoddol yn y maes parcio, staff gweinyddol o’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd i’ch bwcio mewn, nyrsys a brechwyr o bob cwr o’r rhanbarth, gyda chefnogaeth personél ifanc yr RAF. Darparwyd man i bobl eistedd am 15 munud ar ôl eu brechu i sicrhau bod popeth yn iawn. Roedd llawer o’r bobl a gafodd eu brechu yn weithwyr gofal a gofal cartref. Fe wnaethant ddweud wrtha’i eu bod yn hapus yn bennaf achos byddai hyn yn helpu i’r bobl yn eu gofal i ofidio llai. Roedd stori debyg yn Ysbyty Glangwili gyda chywirdeb manwl wrth weinyddu’r brechlyn. A chefais stori gadarnhaol gan y bobl dros 80 oed ym maes parcio Meddygfa Dinbych-y-pysgod am eu profiad ac roeddent yn ddiolchgar iawn i’r staff.

Mae’n bwysig bod yr holl wybodaeth am y brechlyn, faint o gyflenwadau rydyn ni’n eu cael a faint o frechlynnau sydd wedi’u rhoi, a ble, yn wybodaethgyhoeddus yn rheolaidd. Rydym felly yn cyhoeddi bwletin y brechlyn yn wythnosol i ddangos y wybodaeth hon a sut rydym yn gweithio ein ffordd trwy’r grwpiau blaenoriaeth. Dewch o hyd i’r bwletinau ar ein gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol ac rydym yn ddiolchgar i’r cyfryngau lleol am gyhoeddi diweddariadau hefyd.

Mae’r tîm cyfan, gyda’n holl bartneriaid a gwirfoddolwyr, yn gweithio’n ddiflino i gyflawni’r rhaglen frechu fwyaf erioed yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydym yn rhoi cymaint o frechlynnau ag y mae cyflenwadau yn eu caniatáu, a hynny yn y ffordd orau bosib. Mae’r rhaglen yn cyflymu’n rhyfeddol – cymerodd 31 diwrnod i ni roi ein 10,000 brechiad cyntaf ond dim ond 11 diwrnod i roi’r 10,000 brechiad nesaf ar ddechrau’r wythnos hon. Mae ein dyddiad amser real, sy’n cael ei wirio, yn dangos ein bod wedi brechu dros 20,000 o bobl ardal Hywel Dda, sydd dros 5% o’n poblogaeth. Bydd hyn yn cynyddu’n sylweddol bob wythnos nes ein bod – gyda’n gilydd – yn ennill y frwydr yn erbyn y pandemig hwn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle