Mae adferiad economaidd cynaliadwy yn “allweddol” i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Weinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Helen Mary Jones AoS
Bydd AoS y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones yn lansio papur trafod ar ddyfodol economi Cymru yn nes ymlaen y bore yma.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraethau Cymru a’r DG ymrwymo i adferiad cynaliadwy. Ym mhecyn symbylu mwyaf diweddar y DG, mae gwariant gwyrdd penodol yn gyfran sylweddol is o’r gwariant cyffredinol na’r hyn a wnaed gan yr Almaen a’r UE.
Mae’r papur, gan yr ymchwilydd annibynnol Dr Mark Lang yn adolygu sut y mae cymunedau eraill ledled y byd wedi ail-godi eu heconomïau yn wyneb dad-ddiwydiannu, ac y mae’r adroddiad yn rhoi syniadau newydd am sut y gall economi Cymru ymadfer yn dilyn y pandemig Coronafeirws.
Dyma’r hyn a nodi gan yr adroddiad o bwys a gomisiynwyd gan Helen Mary Jones AoS:
- rôl twristiaeth mewn ymateb i ôl-ddiwydiannu yn Bilbao, Gwlad y Basg, a Gwlad yr Iâ
- pwysigrwydd datblygu ynni adnewyddol i hybu’r economi yng Ngwlad yr Iâ ac ardal y Ruhr yn yr Almaen
- defnyddio rhwydweithiau addysgol cryf, addysg alwedigaethol hyblyg; cynyddu lefelau hyfforddiant pan fydd argyfwng yn taro
- twf canolfannau bwyd lleol, yn Unol Daleithiau America
- gwerth modelau cydweithredol mewn gofal oedolion a thai cymunedol
Dywedodd Helen Mary Jones AoS, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Thaclo Tlodi:
“Adeiladwyd economi Cymru ar ein hadnoddau naturiol yn ystod y chwyldro diwydiannol, ond cawsom gyfnod o ddirywiad unwaith i’n dibyniaeth ar lo ddod i ben. Mae Cymru’n dal yn gyfoethog mewn adnoddau naturiol fel dŵr, gwynt a choedwigoedd sydd yn rhoi atebion i’r heriau mae economi Cymru yn wynebu nawr. Wrth i ni ddatblygu’r adnoddau naturiol hyn, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal ein gafael ar y miliynau o bunnoedd yr ydym yn eu hanfon allan o Gymru, a throi’r arian yn ôl i swyddi lleol a chyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
“Wrth i Blaid Cymru baratoi rhaglen lywodraethu cyn etholiadau’r Senedd, dyma gyfraniad gwerthfawr i’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynghylch economi Cymru a’r ffordd yr ydym yn ail-godi ein heconomi a’n cymdeithas wedi’r pandemig.
“Er y gall ein cyfreithiau fod dan fygythiad o du llywodraeth San Steffan, yn ein deddfwriaeth lles, ar waethaf ei holl wrthgyferbyniadau sydd heb eu datrys, mae gan Gymru hadau adferiad cynaliadwy, fydd yn dechrau dadwreiddio’r lefelau uchel o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a thlodi.”
Ychwanegodd y Dr Mark Lang, awdur yr adroddiad:
“Dwyf i ddim yn meddwl ein bod yn oedi digon yng Nghymru nac mewn mannau eraill i holi, ‘beth yw pwynt ein heconomi?’. Petaem yn gwneud hynny, efallai y gwelwn fod gan y math o lwyddiant economaidd yr ydym yn anelu ato gymeriad gwahanol iawn i’r hyn y tybiwn ar hyn o bryd sy’n gywir. Yn wir, hwyrach y bydd yn rhaid ail-feddwl am holl ddiben polisi economaidd.
“I mi, dylai llwyddiant economaidd fod yn gynaliadwy a chydradd. Rhaid i ni ofyn, ‘dros yr ugain mlynedd diwethaf o ddatganoli, a yw polisïau economaidd Cymru yn wir wedi cyflwyno cymdeithas deg a mwy gwyrdd i’r bobl ac i’r blaned’. Mewn geiriau eraill, ‘a yw deddfwriaeth lles Cymru mewn gwirionedd wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn rhedeg ein heconomi, neu’r pethau yr ydym yn dewis buddsoddi ynddynt?'”
“Bydd bywyd ar ôl yr argyfwng Covid-19 wedi mynnu ein bod yn ail-feddwl ein blaenoriaethau o’r bôn i’r brig.
“I mi, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi mwy o bwyslais o lawer ar fentrau lleol a chynaliadwy. Mae’r papur trafod hwn yn tynnu sylw at rai syniadau yn unig am sut y gallwn ddechrau ail-ffurfio ein dadleuon ynghylch ein blaenoriaethau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle