Diogelwch ar y Ffyrdd Gaeaf 2021

0
441

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn galw ar bob preswylydd i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru. Mae 138 o Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd eisoes wedi cael eu cofnodi ledled ardal ein Gwasanaeth y gaeaf hwn.

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd, sef y Rheolwr Gorsaf Spencer Lewis: 

“O ystyried niferoedd y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd sydd wedi’u cofnodi eisoes y gaeaf hwn, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd mwy o ofal ar y ffyrdd i helpu i leihau’r nifer hwn.

“Mae gyrru mewn amodau gaeafol gwael yn gofyn am ymagwedd wahanol, a thrwy wneud rhai newidiadau syml i arferion gyrru, gall gyrwyr leihau’r siawns y byddant yn rhan o wrthdrawiad.”

Ychwanegodd, “Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gall amodau gyrru fod yn beryglus. Rwy’n annog modurwyr i fod yn barod i yrru’n ofalus ac addasu eu gyrru yn Ă´l yr amodau”.

“Os oes rhaid i chi fynd ar daith hanfodol, rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud yn siĹľr bod eich car yn barod ar gyfer y gaeaf trwy roi gwasanaeth gaeaf iddo – mae ceir yn torri i lawr yn fwy aml yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio cyflwr eich teiars, dyfnder y gwadnau a gwasgedd pob un, gan gynnwys eich teiar sbâr. Rydym hefyd yn argymell llunio pecyn argyfwng gaeaf, a ddylai gynnwys yr eitemau hanfodol canlynol: crafwr iâ a gwrthrewydd, gwasgod lachar, triongl rhybudd, ffĂ´n symudol i’w ddefnyddio dim ond pan fyddwch wedi parcio, tortsh, byrbrydau, dĹľr mewn potel, blanced, dillad cynnes, esgidiau cadarn a phecyn cymorth cyntaf.

Cofiwch am y cyngor diogelwch canlynol hefyd cyn cychwyn ar eich taith.

  • Gwiriwch ragolygon y tywydd a’r newyddion traffig  yn rheolaidd, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol.
  • Cadwch ffenestr flaen eich car yn glir, ac ychwanegwch hylif golchi sgrin at eich potel olchi yn gyson. Cadwch y ffenestri a’r drychau yn gwbl glir o anwedd, iâ ac eira.
  • Rhowch fanylion eich taith i rywun, yn ogystal â’r amser yr ydych yn disgwyl cyrraedd.
  • Cadwch eich pellter gan fod pellteroedd stopio ddeng ngwaith hirach mewn iâ ac eira.
  • Addaswch eich gyrru mewn amodau rhewllyd. Peidiwch â brecio na chyflymu’n galed, na llywio’n rhy gyflym, ac yn bwysicaf oll, cofiwch arafu eich cyflymder.

Ewch i’n tudalennau Diogelwch ar y Ffyrdd i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch ag aelod o’r TĂŽm Diogelwch ar y Ffyrdd yn RTC@mawwfire.gov.uk

Gallwch hefyd ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o negeseuon diogelwch. Twitter @mawwfire, Facebook @mawwfire ac Instagram @mawwfire_rescue


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle