Gall ffermydd defaid Cymru sy’n defnyddio arferion hwsmonaeth da i ofalu am eu diadelloedd atal eu hŵyn newydd-anedig rhag dal clefydau yn llawer mwy llwyddiannus nag os defnyddir triniaethau gwrthfiotig fel mater o drefn, yn enwedig os rhoddir sylw i golostrwm a hylendid.
Cafodd ffermwyr a fu’n cymryd rhan mewn gweminar diweddar gan Cyswllt Ffermio eu sicrhau gan Dr Fiona Lovatt, arbenigwraig ar ddefaid o gwmni Flock Health Ltd, y byddai arferion rheoli da yn golygu llai o risg o ddal clwy ceg ddyfrllyd, clwy’r cymalau a chlefydau eraill yn achos y rhan fwyaf o ŵyn.
Mae targedau RUMA (y Gynghrair dros Ddefnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau mewn Amaethyddiaeth) yn datgan nad yw’n briodol i bob oen gael gwrthfiotigau fel mater o drefn o ddechrau unrhyw dymor ŵyna newydd, ond serch hynny, mae’n gyffredin iawn i ffermwyr roi dos drwy’r geg i bob oen i atal clwy ceg ddyfrllyd neu roi pigiad i bob oen i atal clwy’r cymalau.
Mynnai Dr Lovatt na ellir cyfiawnhau triniaethau ataliol heblaw yn achos anifeiliaid unigol sy’n wynebu risg sylweddol o ddal clefydau, er enghraifft, tripledi neu ŵyn bychan iawn.
Er bod yr arfer o drin niferoedd sylweddol o ŵyn iach bellach yn llai cyffredin, rhybuddiodd Dr Lovatt na ddylid defnyddio’r dull hwn gydag unrhyw ddiadell.
Yn ogystal ag anawsterau o safbwynt ymwrthedd, ceir tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu y gallai rhoi gwrthfiotigau fel mater o drefn effeithio’n negyddol ar berfformiad yn y dyfodol, oherwydd byddant yn tarfu ar ficrobïom bregus perfedd yr oen newydd-anedig.
“Ni ddylai eich milfeddyg roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn oni bai ei fod yn hollol fodlon â’ch defnydd ohonynt. Mae gan bawb ohonom ni gyfrifoldeb i beidio â chamddefnyddio’r meddyginiaethau sydd ar gael i ni,” yn ôl Dr Lovatt.
O blith y 129 o ffermwyr a gymerodd ran mewn arolwg dienw yn ystod y weminar, dim ond 4% a roddodd wrthfiotigau trwy bigiadau i bob oen fel mater o drefn yn ystod y tymor ŵyna diwethaf. Ni roddodd y mwyafrif (64%) unrhyw wrthfiotigau trwy bigiadau.
Yn ystod y tymor hwnnw, ni roddodd 46% unrhyw wrthfiotigau trwy’r geg, ac mae’r sefyllfa yn gwella, oherwydd dywedodd 38% o’r cyfranogwyr eu bod wedi gwneud hynny yn ystod blynyddoedd blaenorol.
Streptococcus dysgalactiae sy’n achosi clwy’r cymalau. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu y gall mamogiaid gludo’r haint, a heintio ŵyn trwy gyfrwng y wain a’r llaeth.
“Yn y gorffennol, roedden ni’n meddwl ei fod yn glefyd sy’n digwydd mewn siediau ŵyna budr, ond rydym yn gweld achosion ar ffermydd glân iawn, a gallai hyn fod oherwydd bod ganddynt lawer iawn o famogiaid sy’n cludo’r clefyd,” meddai Dr Lovatt.
“Yn y tymor byr, efallai bydd yn rhaid rhoi gwrthfiotigau trwy bigiadau i ŵyn sy’n cael eu geni yn y grŵp hwnnw, ond nid yw hynny’n golygu y bydd yn rhaid defnyddio gwrthfiotigau i drin pob oen a gaiff ei eni yn y ddiadell yn y dyfodol”.
Mae’n glefyd sy’n cael ei waethygu gan amrywiaeth o wahanol faterion, gan gynnwys ffactorau yn ymwneud â rheoli diadell megis gosod tagiau neu fodrwyau ysbaddu.
“Ystyriwch yr holl arferion a chydweithiwch gyda’ch milfeddyg i asesu’r risgiau sy’n benodol i’ch diadell,” meddai Dr Lovatt.
Cynghorodd y dylid trochi’r bogeiliau ddwywaith, yn syth ar ôl geni’r oen a chwe awr yn ddiweddarach, gan ddefnyddio toddiant sy’n cynnwys 10% o ïodin a chanran sylweddol o alcohol.
“Bydd hyn yn sychu ac yn glanhau’r bogail,” meddai Dr Lovatt. “Dydw i ddim yn cytuno â’r defnydd o hydoddiant copr sylffad, oherwydd nid yw’n sychu’r bogail yn ddigonol yn fy marn i.”
Mae trochi yn well na chwistrellu. “Nid yw chwistrellu yn gorchuddio digon o’r bogail,” meddai Dr Lovatt.
Dylai tagiau clustiau a’r teclynnau i’w gosod yn eu lle gael eu glanhau gan ddefnyddio gwirod meddygol (ethyl-alcohol) cyn tagio pob oen, oherwydd gallent heintio llif gwaed yr oen.
Mae sicrhau bod yr oen yn cael digon o golostrwm da yn allweddol i atal yr holl glefydau y bydd ŵyn yn eu dal.
Bydd colostrwm mamog yn cynnwys 50g o Imiwnoglobiwlin (IgG) fesul litr ar adeg geni’r oen, ond bydd yr ansawdd yn dirywio’n gyflym, a bydd gallu’r oen i elwa ohono yn dirywio hefyd – ymhen 24-36 ar ôl eu geni, ni all ŵyn amsugno rhagor o IgG.
Bydd ar oen sy’n pwyso 4kg angen 20g o IgG cyn gynted ag y bo modd, i drosglwyddo digon o imiwnedd goddefol.
Mae’r egni mewn colostrwm mamogiaid yn bwysig hefyd – mae 15% ohono yn fraster.
“Ar adeg eu geni, bydd gan ŵyn gyflenwad o fraster brown, ond bydd hyn yn lleihau wedi pum awr, felly bydd arnynt angen 200ml/kg o golostrwm yn ystod y 24 awr gyntaf dim ond i gadw’n gynnes,” meddi Dr Lovatt.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle